Nod Tîm Gwella Iechyd BIPBC yw grymuso trigolion Wrecsam a’r Fflint i ymgysylltu â gwerth iechyd a lles a’i groesawu. Rydym yn dîm aml-sgil o ymarferwyr gwella iechyd sy’n darparu mentrau hyrwyddo iechyd/gwella iechyd cynaliadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r gymuned ac asiantaethau eraill i gyrraedd cymaint o aelodau o’r gymuned â phosibl. Rydym yn darparu adnoddau a chyngor ar ffordd o fyw iach i weithwyr proffesiynol a’r gymuned, gan dargedu canlyniadau iechyd sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy'n berthnasol i'r ardaloedd hyn.
Mae Tîm Gwella Iechyd BIPBC hefyd yn cynnig mynediad i ysgolion at sesiynau am ddim ynghylch lles, maeth a gweithgarwch corfforol i gefnogi athrawon, disgyblion, rhieni a gwarcheidwaid.
Gwybodaeth am ein grwpiau
Rydym yn cynnal nifer o sesiynau a chyrsiau gwahanol i helpu pobl i wella eu hiechyd a’u lles:
Hwb Iechyd
Rhaglen 12 wythnos i’ch helpu i greu ffordd o fyw iachach yr ydych yn ei haeddu. Mae’r rhaglen yn dod â maeth, seicoleg a lles corfforol ynghyd. Mae’r cwrs mewn partneriaeth â Freedom ac mae’n rhoi mynediad i chi at un dosbarth campfa’r wythnos am £3 y sesiwn.
Kick Start
Cwrs 6 wythnos i fagu arferion iachach. Dyma fersiwn mwy cryno o’r rhaglen Hwb Iechyd, a fydd yn trafod maeth, lles emosiynol a gweithgarwch corfforol.
Gwydnwch Oedolion
Cwrs 9 wythnos sy’n seiliedig ar therapi ymddygiad gwybyddol i helpu i adeiladu ein gwydnwch a datblygu arfau ymdopi cadarnhaol. Mae’n canolbwyntio ar feddwlgarwch, meddyliau, pendantrwydd, ymdopi gyda heriau, ffyrdd o fyw iachach a pharatoi ar gyfer heriau’r dyfodol.
Poeni Llai
Cwrs 6 wythnos i ddysgu mwy am straen; beth yw ef, sut mae’n effeithio arnom a beth y gallwn ei wneud i’w leihau. Byddwn yn archwilio meddwlgarwch, yr ymateb i straen, cyfathrebu, rheoli straen, bwyd a hwyliau a seicoleg gadarnhaol. Bydd pob sesiwn yn gorffen gyda chymysgedd o Ioga cadair a Tai Chi.
Dewch i Goginio
Cwrs coginio ymarferol 6 wythnos sy’n canolbwyntio ar faeth mewn amgylchedd cartrefol a chyfeillgar. Pob wythnos, byddwn yn paratoi pryd bwyd gyda’n gilydd ac yna’n ei fwyta ar ddiwedd y sesiwn. Darperir yr holl offer a’r cynhwysion a gellir addasu’r prydau i weddu unrhyw alergeddau/anoddefiadau bwyd.
Coginio Swp
Cwrs coginio ymarferol 3 wythnos sy’n canolbwyntio ar goginio swp a lleihau eich gwastraff bwyd a’ch biliau mewn amgylchedd cartrefol a chyfeillgar. Pob wythnos, byddwn yn paratoi pryd bwyd addas ar gyfer coginio swp gyda’n gilydd ac yna’n ei fwyta ar ddiwedd y sesiwn. Darperir yr holl offer a’r cynhwysion a gellir addasu’r prydau i weddu unrhyw alergeddau/anoddefiadau bwyd.
Bwyd a Hwyliau
Cwrs 3 wythnos sy’n edrych ar sut mae ein hemosiynau yn gysylltiedig â’r bwydydd a’r diodydd yr ydym yn eu bwyta a’u hyfed. Byddwn yn archwilio’r Canllaw Bwyta’n Dda, ein hymateb i straen a sut y mae hyn yn gysylltiedig â bwyd, ein perfedd - echel yr ymennydd, y cylch bwyta emosiynol a sut mae hyn i gyd yn effeithio ar y berthynas rhwng sut yr ydym yn teimlo a’r hyn yr ydym yn ei fwyta a'i yfed.
Ymestyn a Tai Chi
Cwrs 8 wythnos sy’n cynnwys tua 20 munud o ymestyn mewn cadair/sefyll ac 20 munud o Tai Chi effaith isel a gorffen gydag ymlacio byr dan arweiniad. Nod pob sesiwn yw adeiladu cryfder a chydbwysedd craidd, yn ogystal â gwella symudedd.
Fitrition
Cwrs 8 wythnos sy’n cynnwys 30-45 munud o sesiwn ymarfer corff gyda’n hyfforddwr ffitrwydd yn ogystal â chyngor maeth gan un o’n maethegwyr cofrestredig. Nod y cwrs yw magu eich hyder i roi cynnig ar fwy o gyfleoedd ymarfer corff prif lif yn yr ardal leol. Mae sesiynau wedi’u teilwra i allu’r unigolyn.
Cymerwch Seibiant
Gofod wythnosol i rieni beichiog/gofalwyr a’r rhai sydd â babanod o dan 1 oed, i gymryd seibiant. Gall bod yn feichiog neu gael babi bach fod yn eithaf unig ar brydiau. Ymunwch â ni am baned a thost am ddim a sgwrsio gyda rhieni/gofalwyr eraill.
Ioga yn ystod Beichiogrwydd
Cwrs 6 wythnos i bob merch ym mhob tymor, i helpu i leddfu poenau a’ch helpu i deimlo’n fwy cyfforddus yn eich corff. Bydd pob sesiwn yn gorffen gyda phaned a sgwrs gyda mamau beichiog eraill. Darperir yr holl bropiau.
Ioga gyda Babi
Cwrs 6 wythnos i fabanod o 10 wythnos oed tan y maent yn cropian. Nod y sesiynau yw lleihau poenau ac anystwythder ac ailadeiladu eich craidd, tra'n rhoi amser bondio gwych i chi a’ch babi. Bydd pob sesiwn yn gorffen gyda phaned a sgwrs gyda rhieni eraill.
Dechrau Bwydydd Solet
Un sesiwn 1 awr untro a fydd yn canolbwyntio ar pryd yw’r amser gorau i gyflwyno bwydydd solet, yn ogystal â beth i’w gynnig, sut i gynnig y bwydydd alergen a chysondeb bwyd.
Sut i ymuno â’n grwpiau
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag un o’n grwpiau, cysylltwch â ni ar 03000 859 625 neu gallwch ein e-bostio ar bcu.healthimprovementteam@wales.nhs.uk. Bydd enwau’n cael eu cadw ar y rhestr aros gan mai dim ond pan gyrhaeddir y niferoedd gofynnol o gyfranogwyr y bydd y rhaglenni'n cael eu cynnal.
Mae pob rhaglen ar gyfer pobl 18 mlwydd oed a hŷn. Nid oes unrhyw dâl gan eu bod yn cael eu hariannu gan y GIG. Mae pob sesiwn tua 1.5 awr o hyd ac yn cael eu cyflwyno mewn lleoliad grŵp. Disgwylir i gyfranogwyr gwblhau’r rhaglen lawn cyn belled ag y bo'n rhesymol bosibl.
Robin Ranson – Uwch Ymarferydd Gwella Iechyd (ffyrdd o fyw iach). Mae gan Robin BSc Anrhydedd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac MSc Anrhydedd mewn Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles. Ymunodd â’r tîm yn 2014 ac mae ganddo brofiad blaenorol fel Gweithiwr Proffesiynol Atgyfeirio Pobl i Wneud Ymarfer Corff (Hyfforddwr Personol cymwysedig ers 2008), a Gwyddonydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae ganddo ddiddordeb arbenigol mewn gordewdra ymhlith plant ac mae wedi gweithio ar y prosiect Sportslinx ar gyfer Prifysgol John Moores Lerpwl a Chyngor Dinas Lerpwl, a’r Prosiect Factor ‘F’, a’r prosiect “Way of Life” ar gyfer y Gronfa Loteri Fawr gyda Chyngor Sir Ddinbych a Phrifysgol Glyndŵr rhwng 2009-2012. Mae Robin yn rheoli’r tîm ochr yn ochr â Steph, a'i gylch gwaith yn y tîm yw ymdrin â chyfleoedd gweithgaredd corfforol a chefnogi’r agenda camddefnyddio sylweddau.
Stephanie Owen - Uwch Ymarferydd Gwella Iechyd (rheoli pwysau). Mae gan Steph radd Meistr mewn Maeth Iechyd Cyhoeddus, ac mae’n faethegydd cofrestredig. Mae Steph wedi bod yn aelod o’r tîm ers 2014, ac mae wedi gweithio’n flaenorol fel gweithiwr bwyd cymuned yn Lerpwl ac fel Maethegydd ar raglen rheoli pwysau teuluol ‘GOALS’ ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Mae Steph yn rheoli’r tîm ochr yn ochr â Robin ac yn helpu i gyflwyno rhaglenni gwella iechyd y tîm allan yn y gymuned.
Sophie Sykes - Ymarferydd Gwella Iechyd (rheoli pwysau). Mae gan Sophie radd Israddedig mewn Maeth Cymuned, ac mae’n faethegydd cyswllt cofrestredig. Mae’n mwynhau gweithio gyda grwpiau poblogaeth amrywiol o blant, teuluoedd ac oedolion hŷn. Mae’n angerddol am ennyn diddordeb pobl mewn coginio a maeth, ac mae’n cyflwyno ein rhaglenni gwella iechyd ynghylch bwyd a maeth, gan gynnwys ‘Dewch i Goginio’, ‘Coginio Swp’ a ‘Bwyd a Hwyliau’. Mae gan Sophie angerdd dros gefnogi pobl gyda’u taith bwydo ar y fron.
Sarah Marriott - Ymarferydd Cyswllt. Mae Sarah yn darparu llawer o’r gweithgaredd o fewn ein tîm. Mae’n gweithio ar agendâu rheoli pwysau ac iechyd meddwl, yn ogystal â threfnu a chyflwyno ym mhob un o’n digwyddiadau annibynnol. Mae hefyd yn cefnogi’r tîm gyda'r holl waith gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd, cofnodion ac ati, a hi yw asgwrn cefn trefnu ein tîm!
Siân Davies – Ymarferydd Gwella Iechyd (Iechyd Meddwl a Lles). Mae gan Siân radd Meistr mewn Seicoleg a Diploma Ôl-raddedig mewn Dulliau Ymddygiad Gwybyddol ac mae wedi gweithio’n flaenorol gyda’r sector elusennol o fewn y maes iechyd meddwl a lles a chyfiawnder troseddol. Mae’n cyflwyno ein sesiynau iechyd meddwl a lles o fewn y gymuned gan gynnwys y rhaglenni Gwydnwch Oedolion a Phoeni Llai. Mae Siân hefyd wedi cwblhau ei chymhwyster Lefel 2 mewn Hyfforddiant Ffitrwydd ochr yn ochr â'i hyfforddiant Ioga Cyn ac ar Ôl Geni.
Ceri Richards – Ymarferydd Gwella Iechyd (rheoli pwysau). Mae gan Ceri radd Israddedig mewn Maeth Dynol a Gradd Meistr mewn Gordewdra a Rheoli Pwysau. Mae Ceri yn Faethegydd Iechyd Cyhoeddus Cofrestredig, ac mae’n angerddol am helpu ac annog pobl i ddatblygu eu sgiliau bwyd a maeth. Mae Ceri yn cyflwyno ein rhaglenni gwella iechyd megis ‘Dewch i Goginio’, ‘Swp Coginio’ a ‘Bwyd a Hwyliau’. Mae Ceri hefyd wedi cwblhau ei chymhwyster Lefel 2 mewn Hyfforddiant Ffitrwydd ochr yn ochr â'i hyfforddiant Ioga Cyn ac ar Ôl Geni.
Emily Perry – Ymarferydd Gwella Iechyd (Iechyd Meddwl a Lles). Mae gan Emily radd Meistr mewn Seicoleg Iechyd, mae’n athrawes ioga cymwys ac mae wedi cwblhau ei chymhwyster lefel 2 mewn Hyfforddiant Ffitrwydd. Mae wedi gweithio’n flaenorol o fewn elusennau iechyd meddwl a thimau datblygu arweinyddiaeth. Mae’n cyflwyno sesiynau iechyd meddwl, ymwybyddiaeth straen a lles o fewn y gymuned, yn ogystal â sesiynau ioga. Datblygodd hefyd ein rhaglenni Poeni Llai ac Ioga gyda Babi.
I gysylltu â'r tîm, gallwch gysylltu â ni ar y manylion isod yn ystod oriau arferol swyddfa (dydd Llun - ddydd Gwener 8am-4pm) neu gadewch neges:
Ffôn – 03000 859 625
E-bost - bcu.healthimprovementteam@wales.nhs.uk
Tîm Gwella Iechyd, BIPBC - Canolfan Iechyd Parc Caia, Ffordd y Tywysog Siarl, Ffordd y Tywysog Siarl, LL13 8TH
Tîm Gwella Iechyd, BIPBC - Canolfan Iechyd a Lles y Fflint, Earle Street, Y Fflint, CH6 5ER
Am wybodaeth am ddigwyddiadau presennol neu ddigwyddiadau sydd ar y gweill, edrychwch ar ein tudalen Facebook Tîm Gwella Iechyd BIPBC.