Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Gwella Iechyd

Nod Tîm Gwella Iechyd BIPBC yw grymuso preswylwyr Parc Caia, Hightown, Canol Wrecsam, Y Fflint a'r cymunedau ehangach i ymgysylltu a chofleidio gwerth iechyd a lles. Rydym yn dîm aml-sgiliau o ymarferwyr gwella iechyd, sy'n darparu mentrau hybu iechyd/ gwella iechyd cynaliadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r gymuned ac asiantaethau eraill i gyrraedd cymaint â phosibl o aelodau'r gymuned. Rydym yn darparu adnoddau a chyngor ar ffordd o fyw iach i weithwyr proffesiynol a'r gymuned, gan dargedu canlyniadau iechyd wedi'u seilio ar dystiolaeth sy'n berthnasol i'r ardaloedd hyn.  

Gwybodaeth am ein grwpiau

Rydym yn cynnal nifer o ddosbarthiadau i helpu pobl wella eu hiechyd a'u lles:

Byw Bywyd i'r Eithaf (LLTTF)

Rhaglen 8 wythnos i wella hwyliau a lles meddyliol, drwy wneud newidiadau mewn arddulliau meddwl, ymddygiad ac iechyd corfforol. Dyma raglen Therapi Ymddygiad Gwybyddol ar sail sgiliau bywyd ar gyfer pobl sydd ag iselder neu bryder ysgafn i gymedrol. Ni fwriedir i ‘Byw Bywyd i'r Eithaf' gymryd lle triniaeth/rheolaeth clinigol presennol; fodd bynnag gall ategu gwasanaethau gofal iechyd eilaidd ac iechyd meddwl.

Bwyd Doeth am Byth

Rhaglen strwythuredig 8 wythnos sy'n defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i reoli pwysau. Wedi'i hysgrifennu gan Ddietegwyr Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru, mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i gyfrannu at Lefel 1 a 2 'Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan' Llywodraeth Cymru. Mae wedi'i chynllunio ar gyfer unigolion sydd â Mynegai Mas Corff dros 25 sy'n barod i wneud newidiadau i ffordd o fyw. Ni fwriedir i 'Bwyd Doeth am Byth’ gymryd lle triniaeth/ rheolaeth glinigol bresennol, gan gynnwys addysgu strwythuredig sy'n benodol i glefyd. Nid yw'r rhaglen yn addas i'r rhai sydd ag anghenion iechyd cymhleth.

Dewch i Goginio

Cwrs 6 wythnos ar goginio ymarferol sy'n canolbwyntio ar faeth mewn amgylchedd cyfeillgar a chartrefol. Darperir yr holl offer a chynhwysion a bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn gallu bwyta'r pryd o fwyd y maent wedi’i goginio ar ddiwedd y sesiwn.

Fitrition

Rhaglen 6 wythnos sy'n cynnwys sesiwn ymarfer corff 30-45 munud yr wythnos gyda'n hyfforddwr ffitrwydd, yn ogystal â chynnwys y cyngor diweddaraf ar fwyta'n iach gan ein maethegwyr cofrestredig. Nod y rhaglen yw gwella iechyd a ffitrwydd pobl, yn ogystal â'u hyder i ddatblygu at gyfleoedd ymarfer corff prif lif yn yr ardal leol. Mae sesiynau'n cael eu teilwra i allu'r unigolyn.

Os oes gennych ddiddordeb ymuno ag un o'n grwpiau, yna cysylltwch â ni ar 03000 859 625 neu e-bostiwch bcu.healthimprovementteam@wales.nhs.uk. Bydd enwau'n cael eu hychwanegu at restr aros gan fod rhaglenni ond yn cael eu cynnal pan fydd nifer digonol yn dymuno cymryd rhan.

Mae pob rhaglen ar gyfer y rhai dros 18 oed. Nid oes tâl gan eu bod yn cael eu hariannu'n llawn gan y GIG. Mae pob sesiwn oddeutu 1.5 o hyd ac yn cael eu cyflwyno mewn grŵp. Mae disgwyliad y bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cwblhau'r rhaglen lawn cyhyd ag sy'n rhesymol bosibl.

Cyfarfod y Tîm

Robin Ranson - Uwch Ymarferydd Gwella Iechyd (Ffordd o Fyw iach). Mae cefndir Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff Robin wedi gwella ei flynyddoedd o brofiad fel Gweithiwr Proffesiynol Iechyd a Ffitrwydd (Hyfforddwr Personol cymwys ers 2008). Mae ganddo ddiddordeb arbenigol mewn gordewdra ymhlith plant a gweithiodd ar y Prosiect 'Sportslink ar gyfer Prifysgol John Moores Lerpwl a Chyngor Lerpwl, a'r Prosiect 'F' Ffactor a'r prosiect 'Ffordd o Fyw" ar gyfer Cronfa'r Loteri Fawr â Chyngor Sir Ddinbych a Phrifysgol Glyndwr rhwng 2009-2012. Ei gylch gwaith yn y tîm yw ymdrin â chyfleoedd ymarfer corff a chefnogi'r agenda camdrin sylweddau.

 

 

Stephanie Owen - Ymarferydd Gwella Iechyd (rheoli pwysau).  Mae gan Steph radd Meistr mewn Maeth Iechyd Cyhoeddus ac mae'n faethegydd cofrestredig. Yn flaenorol mae wedi gweithio fel gweithiwr bwyd cymuned ac fel maethegwr ar raglen rheoli pwysau teulu yn Lerpwl.  Mae'n darparu sesiynau bwyd a maeth yn y gymuned yn ogystal â rhaglenni rheoli pwysau, 'Dewch i Goginio' a 'Bwyd Doeth am Byth'.

 

 

 

Sophie Sykes - Ymarferydd Gwella Iechyd (rheoli pwysau).  Mae gan Sophie Radd israddedig mewn Maeth Cymuned, ac yn faethegwr cyswllt cofrestredig. Mae'n mwynhau gweithio gyda grwpiau poblogaeth gwahanol o blant, teuluoedd ac oedolion hŷn. Mae'n angerddol dros ennyn diddordeb pobl mewn coginio a maeth, ac yn darparu ein rhaglenni gwella iechyd o amgylch bwyd a maeth, gan gynnwys 'Dewch i Goginio' a 'Bwyd Doeth am Byth'.

 

 

 

Sarah Marriott - Ymarferydd Cynorthwyol. Mae Sarah'n darparu rhan fwyaf o'r gweithgaredd o fewn ein tîm. Mae'n gweithio ar yr agenda rheoli pwysau ac iechyd meddwl yn ogystal â threfnu pob un o'n digwyddiadau unigol a'u darparu.  Mae hefyd yn cefnogi'r tîm a'r ardal leol gyda'r holl waith gweinyddu ar gyfer cyfarfodydd, cofnodion ac ati a hi yw'r asgwrn cefn o ran trefnu ein tîm!

 

 

 

Siân Davies – Ymarferydd Gwella Iechyd (Iechyd Meddwl a Lles). Mae gan Siân Radd Meistr mewn Seicoleg a Diploma Ôl-raddedig mewn Dulliau Ymddygiad Gwybyddol ac mae wedi gweithio yn flaenorol yn y sector elusennol o fewn iechyd meddwl, lles a chyfiawnder troseddol. Mae’n darparu sesiynau iechyd meddwl a lles yn y gymuned yn cynnwys y rhaglen ‘Living Life to the Full’.

 

 

 

Tracey Edwards - Tracey yw ein Metron Ardal yma yn Wrecsam ac ar draws Sir y Fflint ar gyfer ardal y Dwyrain, yn ogystal â gwasanaethau Nyrsio Cymunedol Wrecsam sef ble mae'r Tîm Gwella Iechyd. Mae cefndir Tracey yn gweithio yn bennaf ac yn arwain Gwasanaethau Nyrsio Ardal ac Ysbytai Cymunedol yn ardal Wrecsam. Mae hi hefyd wedi bod yn rhan o brosiectau amlasiantaeth eraill ledled Gogledd Cymru

 

 

 

 Ceri Richards – Ymarferydd Gwella Iechyd: Mae gan Ceri radd israddedig mewn Maeth Dynol a Gradd Meistr mewn Gordewdra a Rheoli Pwysau. Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn gweithio tuag at ei theitl Maethegydd Cofrestredig. Mae hi'n angerddol am helpu pobl ac annog pobl i ddatblygu eu sgiliau bwyd a maeth. Mae hi'n mwynhau gweithio yn y gymuned a chwrdd â phobl newydd ac yn darparu ein rhaglenni gwella iechyd fel 'Come and Cook' a 'Foodwise for Life'.

 

 

 

 Emily Perry – Ymarferydd Gwella Iechyd. Mae gan Emily radd Meistrmewn SeicolegIechyd ac mae'nathrawesiog a cymwys. Yn y gorffennol mae wedi gweithio o fewn elusennau Iechyd meddwl a thim audatblygu arweinyddiaeth. Mae hi'n cyflwyno sesiynau Iechyd meddwl, ymwybydd i aeth straen a llesyn y gymuned, ynogystal â sesiynauioga. Datblygodd hefydein ‘Stress Less’ a rhaglenni Yoga gyda Babi. 

 

 

Manylion cyswllt

I gysylltu â'r tîm, gallwch gysylltu â ni ar y manylion isod yn ystod oriau arferol swyddfa (dydd Llun - ddydd Gwener 8am-4pm) neu gadewch neges: 

Ffôn – 03000 859 625

E-bost - bcu.healthimprovementteam@wales.nhs.uk

Tîm Gwella Iechyd, BIPBC - Canolfan Iechyd Parc Caia, Ffordd y Tywysog Siarl, Ffordd y Tywysog Siarl, LL13 8TH

 Tîm Gwella Iechyd, BIPBC - Canolfan Iechyd a Lles y Fflint, Earle Street, Y Fflint, CH6 5ER

Am wybodaeth am ddigwyddiadau presennol neu ddigwyddiadau sydd ar y gweill, edrychwch ar ein tudalen Facebook Tîm Gwella Iechyd BIPBC.