Neidio i'r prif gynnwy

Ymunwch â'n tîm!

Sut i ddod yn Therapydd Iaith a Lleferydd - Dod yn therapydd Iaith a Lleferydd

Y Rôl – Therapyddion Iaith a Lleferydd – Mae therapyddion iaith a lleferydd yn darparu triniaeth, cymorth a gofal i bobl o bob oed sy’n cael anawsterau gyda lleferydd, iaith, cyfathrebu, bwyta, yfed a llyncu. Maent yn gweithio mewn pob math o feysydd a lleoliadau i wella ansawdd bywyd pobl.

Cynorthwywyr Therapi Iaith a Lleferydd neu Hyfforddwyr Technegol - Cynorthwywyr therapi iaith a lleferydd yw'r rheng flaen o ran helpu cleifion â chyflyrau sy'n effeithio ar eu cyfathrebu, eu llyncu a'u bwydo. Gallai hefyd fod y cam cyntaf tuag at ddod yn therapydd iaith a lleferydd.

Gweinyddol – Mae gan ein tîm gweinyddol rôl allweddol o ran darparu cymorth ysgrifenyddol, gweinyddol a threfniadol i’r Tîm Therapi Iaith a Lleferydd.

Sylwadau - Yn adran Therapi Iaith a Lleferydd BIPBC, rydym yn cynnig 2 opsiwn: 1. Arsylwi hanner diwrnod gyda phlant ac arsylwi hanner diwrnod gydag oedolion. Bydd hyn yn bodloni'r gofyn sylfaenol ar gyfer ceisiadau prifysgol a hefyd yn helpu'r rhai sydd eisiau dysgu mwy am y rôl. 2. Mae ‘Obs for jobs’ yn galluogi ymgeiswyr i dreulio mwy o amser yn ein hadran. Am bob sesiwn y byddwch yn gwirfoddoli ar ei chyfer yn yr adran (er enghraifft, paratoi offer, cefnogi'r tîm gweinyddol) byddwn yn cynnig sesiwn arsylwi gyda therapydd neu hyfforddwr technegol i chi. Bydd hyn yn eich galluogi i dreulio mwy o amser gyda'n tîm a chael dealltwriaeth lawnach o sut mae'r adran yn gweithredu.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni -

Wrecsam a Sir y Fflint Ffôn: 03000 848 166

Conwy a Sir Ddinbych Ffôn: 03000 855 972

Gwynedd ac Ynys Môn 03000 851 758

 

Swyddi gwag ar hyn o bryd