Mae maint geirfa plentyn ifanc (faint o eiriau mae'n ei wybod) yn gallu dangos pa mor dda y bydd yn gallu darllen fel oedolyn. Canfuwyd hefyd fod cysylltiad rhwng hynny a llwyddiant addysgol yn yr ysgol a hyd yn oed potensial i ennill cyflog.
Mae helpu plant i adeiladu eu geirfa'n bwysig iawn. Mae darllen yn ffordd wych o helpu plentyn i ddatblygu geirfa ehangach a chynyddu ei wybodaeth gyffredinol. Drwy glywed straeon, bydd plant yn cael clywed amrywiaeth eang o eiriau, a bydd hynny'n helpu i adeiladu eu storfa geirfa.
Po fwyaf y nifer o weithiau y bydd plentyn yn clywed gair, y mwyaf fydd y tebygolrwydd y gwnaiff ddysgu'r gair hwnnw.
Syniadau i roi cynnig arnynt wrth ddarllen llyfr:
Annog y plentyn i fod yn 'dditectif geiriau':
Nid darllen yw'r unig ffordd i adeiladu geirfa
Gwrandewch ac edrychwch am eiriau newydd neu ddiddorol ar y teledu, pan fyddwch yn mynd am dro, neu pan fydd pobl yn sgwrsio. E.e. "dywedodd y meddyg bod angen 'presgripsiwn' arnat ti. Mae hwnna'n air newydd, tybed beth yw ei ystyr...wyt ti'n gwybod?" a thrafodwch. Defnyddiwch air newydd sawl gwaith mewn gwahanol frawddegau, a dychwelwch at y gair y diwrnod canlynol i helpu'r i sicrhau y gwnaiff y gair 'lynu' ym meddwl eich plentyn
Siaradwch am eiriau sydd â mwy nag un ystyr: E.e. "yn y banc mae pobl yn cadw arian ond dw i'n gwybod am fath arall o 'fanc', wyt ti?"
Gêm yr eithriad: Dewiswch 3-4 o wrthrychau/lluniau gan sicrhau bod un ohonynt yn perthyn i gategori gwahanol. Mae'n rhaid i'r plentyn nodi pa un yw'r "eithriad" a thrafod pam. E.e. bws/car/ci = ci yw'r un gwahanol oherwydd mae'n anifail ac mae'r rhai eraill yn fathau o gludiant. Os yw hyn yn rhy hawdd, defnyddiwch eitemau o'r un categori e.e. bws/car/awyren = awyren yw'r un gwahanol oherwydd mae'n teithio drwy'r awyr ac mae'r rhai eraill yn teithio ar y ffordd fawr.
Straeon/caneuon dwl: Mae cyfansoddi cân (neu rap) am eiriau yn ffordd hwyliog o gadw geiriau yng nghof plentyn. Ail-adroddwch y gair newydd sawl gwaith yn y stori/gân. Pwysleisiwch y gair newydd a chysylltwch y gair â phethau gwahanol yn y gân e.e. "Clywais y drwm uchel, uchel, uwchben sŵn y traed uchel, uchel yn taro'r llawr ond diflannodd sŵn y siarad uchel, uchel".
Clapiwch rythm geiriau: Yn aml iawn, bydd pobl yn cam-glywed geiriau sydd â mwy nag un curiad/sillaf. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n anodd i blant ddysgu sŵn patrwm y gair, ac yn sgil hynny, bydd hi'n anodd dysgu'r gair. Clapiwch y sillafau a phwysleisiwch y synau ar ddechrau pob sillaf wrth i chi eu dweud E.e. “an-we-ddu” = 3 sillaf, “teithio” = 2 sillaf.
Crëwch eiriau lol: Faint o eiriau, hyd yn oed geiriau lol (rhai nad ydynt yn eiriau go iawn), y gallwch chi eu creu i gyd-fynd â'r geiriau newydd y byddwch yn eu canfod? E.e. 'Blodyn' - bachyn, asyn, beirddyn. Helpwch y plant i benderfynu a yw'r gair yn air go iawn neu'n air lol.
Cyflwynwch ‘Air y Dydd’ : Defnyddiwch y gair mor aml ag y gallwch chi yn ystod y dydd. Defnyddiwch eiriau newydd mewn llawer o frawddegau, ac adolygwch hynny dro ar ôl tro y diwrnod canlynol. Mae angen sicrhau bod geiriau'n glynu!
Gêm dyfalu: Gan ddefnyddio llawer o luniau â'u hwyneb at i lawr, dewiswch un yn eich tro i'w disgrifio. Gall chwaraewyr gadw'r lluniau os byddant yn dyfalu beth yw'r llun yn sgil y disgrifiad a geir gan y chwaraewr arall. Sicrhewch y bydd y gêm yn ddifyr trwy sicrhau na chaniateir i’r ‘disgrifydd’ enwi’r peth y bydd yn ceisio'i ddisgrifio. Ceisiwch ddefnyddio cliwiau megis 'beth mae'n ei wneud', 'ble gallwch ei ganfod', 'sut mae'n teimlo wrth ei gyffwrdd' (e.e. caled, meddal, soeglyd) yn ogystal â 'sut mae'n edrych', 'pa rannau sydd ganddo' ac ati.
Crëwch wal geirfa (neu lyfr geirfa): Ysgrifennwch air newydd y bydd y plentyn yn ei ddysgu ar ddarn o bapur a'i roi yn rhywle y gellir ei weld (ar y rhewgell, wal ei ystafell wely neu lyfr lloffion). Siaradwch am eiriau'n rheolaidd i'w helpu i lynu a thrafodwch ddealltwriaeth eich plentyn ohonynt.
Defnyddiwch y gair mor aml ag y gallwch chi: Wrth sgwrsio â'ch plentyn, dewiswch air sydd wedi codi'n ddiweddar a cheisiwch ei ddefnyddio mor aml ag y gallwch chi yn y sgwrs 'Edrycha ar yr hwyaid yna, maen nhw'n ddiddorol iawn. Mae'r un yna'n sefyll ar un goes. Mae fflamingo'n gwneud hynna, mae'r anifail yna'n ddiddorol hefyd, maen nhw mor dal a gosgeiddig ac mae ganddyn nhw liw mor anghyffredin, anifeiliaid diddorol iawn'.