Pwysigrwydd Defnyddio Iaith eich Aelwyd
Yn achos nifer gynyddol o blant sy'n dechrau'r ysgol yn y DU, nid yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Efallai mai Pwyleg, Rwmaneg, Cwrdeg neu Fwlgareg yw iaith eu teulu, neu hyd yn oed un o blith yr ieithoedd niferus eraill sy'n bodoli yn ein cymuned leol. Pan fydd y plentyn yn cychwyn yr ysgol neu'r feithrinfa, efallai mai hynny fydd eu profiad go iawn cyntaf o'r Gymraeg neu'r Saesneg.
Pam mae'n bwysig siarad â fy mhlentyn gan ddefnyddio iaith fy aelwyd?
Ond beth am ddysgu Cymraeg/Saesneg?
Mae llawer o rieni'n poeni y bydd siarad iaith eu haelwyd yn peri anfanteision i'w plentyn pan fydd yn cychwyn mewn ysgol yn y DU. Nid yw hynny'n wir. Os bydd eich plentyn wedi datblygu sylfaen dda yn iaith eu haelwyd, dylai allu dysgu ail iaith yn eithaf rhwydd ar ôl cychwyn clywed ac ymarfer yr iaith.
A wnaiff dysgu dwy iaith beri dryswch i fy mhlentyn?
Gall plant ifanc ddysgu dwy iaith neu ragor ar yr un pryd. Byddant fel arfer yn dysgu'n gyflym pan fyddant yn cael digonedd o gyfleoedd i glywed a defnyddio dwy iaith neu bob iaith. Weithiau, bydd plant yn defnyddio geiriau neu ymadroddion o'r ddwy iaith yn yr un frawddeg. Mae hynny'n iawn! Efallai y bydd yn swnio fel eu bod wedi drysu, ond mewn gwirionedd, byddant yn dysgu rheolau a geirfa'r ddwy iaith ac yn eu didoli yn eu hymennydd. Bydd yn dangos eu bod yn dysgu ac yn meddwl yn dda.
Mae'n well gan fy mhlentyn siarad Cymraeg/Saesneg. Beth ddylwn i ei wneud?
Sgwrsiwch â'ch plentyn am iaith; trafodwch y bobl arbennig yn eu bywyd sy'n siarad eich iaith, yn cynnwys perthnasau a ffrindiau. Sicrhewch fod iaith eich aelwyd yn ddifyr trwy ddarllen llyfrau, canu caneuon a chwarae gemau yn yr iaith. Os bydd eich plentyn yn ymateb yn Saesneg, ailadroddwch yr ymateb iddo gan ddefnyddio iaith yr aelwyd, er mwyn iddo allu clywed model da.
Ceisiwch ddal ati i siarad â'ch plentyn yn iaith eich aelwyd. Byddwch yn falch o fod wedi dyfalbarhau!
Beth allaf i ei wneud i helpu?
Cofiwch, nid yw'n ofynnol i chi allu siarad Saesneg i fynd i weld Therapydd Iaith a Lleferydd. Gellir trefnu i gyfieithydd ar y pryd fod yn bresennol yn ystod eich apwyntiad.