Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi Organau, Straeon Go Iawn

Catherine Maria Heighton

Bu farw Catherine yn Ysbyty Gwynedd ar 31 Gorffennaf 2013 ar ôl iddi syrthio yn ei chartref.

Roedd Graham, ei gŵr, wedi'i lorio gan ei marwolaeth ond mae'n disgrifio sut roedd gwybod bod Catherine wedi 'rhoi bywyd' i eraill wedi helpu i wneud colled drist y teulu'n un haws.

Dywedodd: "Roedd hi'n bnawn hyfryd ac roedd fy ngwraig wedi mynd i'r gegin. Rhywsut fe syrthiodd a tharo'i phen.

"Ar wahân i ychydig o sioc, roedd hi'n berffaith iawn. Dywedais wrthi am fynd i orwedd ac felly fe aeth i'w gwely a chysgu. Ond wnaeth hi ddim deffro.

"Cafodd ei rhuthro i Ysbyty Gwynedd y diwrnod canlynol ac fe ddywedwyd wrthyf ei bod wedi cael anaf difrifol i'r ymennydd. Ar ôl gwneud rhai profion, fe wnaethom ddarganfod nad oedd dim y gallai'r meddygon ei wneud.

"Dyna pryd y daeth nyrs rhoi organau ataf i, gan ofyn yn ofalus beth oedd fy marn am roi organau.

"Roedd fy ngwraig a fi wedi trafod rhoi organau ers blynyddoedd ac roedd y ddau ohonom wedi cytuno ein bod am wneud hynny.

"Dywedodd Abigail Roberts, y nyrs, y byddai'n edrych ar y rhestr ganolog ac fe gadarnhaodd fod enw fy ngwraig arni.

"O ganlyniad, cafodd pedwar o bobl rodd o fywyd gan fy ngwraig.

"Dyma'r unig beth da a ddaeth o ddiwrnod mor erchyll. Mae gwybod hyn wedi fy nghadw i fynd ac rydw i'n llwyr gefnogi gwaith y nyrsys rhoi organau arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

"Mae rhoi organau yn gwneud gwahaniaeth, ac mae'n ei gwneud yn haws i'r rhai sydd wedi'u gadael ar ôl. Mae'n bwysig bod pob teulu'n trafod eu teimladau ynglŷn â rhoi organau."

 

Ella Noon

Cafodd Ella Noon o Fae Colwyn ei thrawsblaniad hi yn Ysbyty Plant Birmingham yn 2008, pan roedd hi'n ddwy flwydd oed. Roedd wedi cael diagnosis o glefyd ar yr iau yn fuan ar ôl iddi gael ei geni.

Derbyniodd Ella sy'n ddisgybl yn Ysgol Aberconwy, yr organ gan ferch 17 mlwydd oed o Sir Ddinbych a fu farw ar ôl damwain car.

Ar ôl ei llawdriniaeth, cafodd Ella ei rhuthro i'r adran gofal dwys oherwydd bod ganddi haint difrifol. Ers hynny, mae hi wedi bod ar feddyginiaeth oherwydd bod ei system imiwnedd yn isel. Mae hi'n mynychu'r ysbyty'n rheolaidd.

Mae Ella bellach yn benderfynol o annog pobl i siarad yn agored am roi organau er mwyn hybu nifer yr organau sy'n cael eu rhoi ac achub mwy o fywydau.

Dywedodd: "Rydw i mor ddiolchgar am yr organ a gefais i. Fe achubodd fy mywyd i.

"Rwy’n awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc fy oed i. Mae hi'n bwysig iawn eu bod nhw’n deall beth mae rhoi organau'n ei olygu a sut y gall newid bywyd rhywun.

"Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi'r Nyrsys Rhoi Organau Arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i helpu codi ymwybyddiaeth. Rydw i hefyd am fynd i ysgolion uwchradd yn yr ardal i siarad am roi organau a dweud fy stori i."

 

Amy Elizabeth Jones

Dim ond 24 mlwydd oed oedd Amy Elizabeth Jones pan fu farw ar 11 Mehefin 2015, ar ôl trawiad yn ei chartref bedwar diwrnod ynghynt.

Er mwyn hybu ymwybyddiaeth a phwysigrwydd rhoi organau, siaradodd ei mam, Sharron Jones am drasiedi'i theulu hi.

Dywedodd: "Roedd hi'n ddiwrnod arferol arall. Roeddwn i wedi dod adref o'r gwaith, roedd Amy a fi wedi cael swper ac fe aeth hi i fyny'r grisiau.

"Yn sydyn, fe glywes i glec ofnadwy a sŵn drws yn clepian. Fe redais i fyny'r grisiau a thrio agor y drws ond fedrwn i ddim gan fod pwysau Amy yn ei erbyn.

"Fe ffoniais i'r ambiwlans ac fe wnaethon nhw fynd ag Amy i Ysbyty Maelor Wrecsam lle cafodd ei rhoi ar yr uned gofal critigol."

Cafodd Amy ddiagnosis o epilepsi pan oedd yn ei harddegau hwyr a dechreuodd brofi trawiadau absenoldeb.

Bedwar diwrnod ar ôl i Amy gyrraedd Ysbyty Maelor, clywodd Sharron y newyddion torcalonnus nad oedd ei merch yn mynd i wella.

"Fe wnaethon nhw ddweud wrthym ni pe bai Amy yn dod yn ôl atom ni, ddim yr un Amy fyddai hi.

"Rwy’n wirioneddol ddiolchgar am bopeth a wnaeth y meddygon, roedd y nyrsys fel angylion ac fe wnaethon nhw roi cymaint o gefnogaeth i ni, ond roeddwn i'n gwybod nad oedd mwy y gallen nhw wneud iddi hi."

Yn ystod yr amser hwnnw yn yr ysbyty, daeth Abi Roberts, Nyrs Rhoi Organau Arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr at Sharron Jones a gofyn iddi a oedd hi wedi ystyried rhoi organau. Roedd hi'n gwybod beth fyddai ei hateb yn syth. Bu farw aelod o'i theulu wrth aros am drawsblaniad ysgyfaint.

Dywedodd: "Roeddwn i'n gwybod ar unwaith beth fyddai Amy wedi'i ddymuno. Roedden ni wedi'i drafod yn agored oherwydd ein bod wedi colli aelod o'n teulu ni a oedd ar y rhestr drawsblannu.

"Cafodd dair merch arall rodd o fywyd gan Amy. Cafodd un ei hiau a'r ddwy ferch arall ei harennau.

"Wna' i byth ddod dros y golled. Fydda i ddim yn  gweld Amy yn priodi a chael plant ond mae hi'n gwneud hynny rŵan drwy roi organau ac maen nhw'n gofalu amdani.

"Roedd yn benderfyniad anodd ei wneud ond dyna fyddai Amy wedi'i ddymuno. Mae hi'n bwysig bod teuluoedd yn eistedd gyda'i gilydd i drafod rhoi organau ac os oes rhywbeth yn digwydd i chi, mae'n bwysig bod eich teulu’n gwybod beth yw eich dymuniadau chi.

"Mae'n rhaid i chi roi eu penderfyniad nhw yn gyntaf, o flaen eich teimladau eich hun. Fe wnes i roi Amy yn gyntaf ac rydw i'n gwybod y byddai hi fel merch ifanc ofalgar, yn falch ei bod wedi helpu achub bywyd tair merch arall."