Un o'r penderfyniadau pwysicaf y byddwch yn ei wneud yn ystod eich beichiogrwydd yw ble byddwch yn geni eich babi. Mae'r rhan fwyaf o ferched yn ansicr i ddechrau o ran lle sydd orau iddynt.
Rydym yn gwybod o ymchwil bod merched yn gwneud yn well yn ystod cyfnod esgor pan maent yn teimlo'n breifat ac yn ddiogel. Os ydych chi a'ch babi yn iach mae angen i chi feddwl am ble fyddai'n teimlo'n iawn i chi i roi genedigaeth.
Y peth pwysig i gofio yw bod gennych ddigon o amser i ddewis ac nid yw rhai merched yn gwneud penderfyniad nes maent yn y cyfnod esgor. Gallwch siarad am hyn gyda'ch bydwraig a bydd hi'n rhoi'r holl wybodaeth rydych ei angen i wneud y penderfyniad.
Os oes ychydig o gymlethdodau yn ystod eich beichiogrwydd efallai y bydd eich bydwraig yn eich cyfeirio at obstetregydd a fydd yn eich cefnogi i gynllunio eich gofal cyn-geni a'r enedigaeth.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau mamolaeth yn ein hysbytai: