Neidio i'r prif gynnwy

Sut gall poen effeithio ar sut yr ydym yn teimlo

Gwyddom y gall poen barhaus (cronig) gael effaith sylweddol ar ein lles a'r hyn y teimlwn yn abl i'w wneud. Gall effeithio ar ein gwaith, perthnasau, hobïau a diddordebau, ein meddyliau a sut rydym yn teimlo’n emosiynol . Mae rhai ymatebion cyffredin i boen yn cynnwys dicter, rhwystredigaeth, euogrwydd, hwyliau isel, pryder, ofn a theimlo wedi eich cam-ddeall.

Rydym hefyd yn gwybod bod poen yn gymhleth ac y gall llawer o ffactorau ddylanwadu ar ein profiad o boen, yn cynnwys straen parhaus, trawma, pryder a chwsg gwael.

Beth alla i ei wneud am hyn?

Bydd eich gwasanaeth rheoli poen lleol yn eich holi am yr effaith y mae poen yn ei gael ar eich bywyd a bydd yn ystyried ffyrdd o reoli hyn gyda chi. Mae hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol a chefnogaeth ar gael i chi am ddim:

Adnoddau ychwanegol:

Ble i gael cefnogaeth emosiynol:

  • ‘Therapïau siarad Parabl’ ar gyfer pryder ac iselder ysgafn a chymedrol: Ffôn: 0300 777 2257, Gwefan: www.parabl.org.uk/cymru/
  • MIND – elusen iechyd meddwl yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth: Ffôn: 0300 123 3393, Gwefan: www.mind.org.uk/cy/mind-cymru/
  • ACTivate your life: Cwrs ar-lein am ddim yn addysgu ffyrdd o wella eich iechyd meddwl a'ch lles:

 https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/bywyd-actif/

  • Siaradwch â'r Samariaid ar 08457 90 90 90

 

Sut i gael cymorth cymdeithasol neu ganfod grŵp lleol i ymuno â nhw:

 

Os oes angen cymorth i gadw eich hun yn ddiogel:

  • Cysylltwch â'ch meddyg teulu
  • Ffoniwch 999 neu ewch i’r Adran Achosion Brys