Gwyddom y gall poen barhaus (cronig) gael effaith sylweddol ar ein lles a'r hyn y teimlwn yn abl i'w wneud. Gall effeithio ar ein gwaith, perthnasau, hobïau a diddordebau, ein meddyliau a sut rydym yn teimlo’n emosiynol . Mae rhai ymatebion cyffredin i boen yn cynnwys dicter, rhwystredigaeth, euogrwydd, hwyliau isel, pryder, ofn a theimlo wedi eich cam-ddeall.
Rydym hefyd yn gwybod bod poen yn gymhleth ac y gall llawer o ffactorau ddylanwadu ar ein profiad o boen, yn cynnwys straen parhaus, trawma, pryder a chwsg gwael.
Beth alla i ei wneud am hyn?
Bydd eich gwasanaeth rheoli poen lleol yn eich holi am yr effaith y mae poen yn ei gael ar eich bywyd a bydd yn ystyried ffyrdd o reoli hyn gyda chi. Mae hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol a chefnogaeth ar gael i chi am ddim:
Adnoddau ychwanegol:
Ble i gael cefnogaeth emosiynol:
https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/bywyd-actif/
Sut i gael cymorth cymdeithasol neu ganfod grŵp lleol i ymuno â nhw:
Os oes angen cymorth i gadw eich hun yn ddiogel: