Efallai bydd angen ymarfer er mwyn datblygu sgiliau rhoi sylw, canolbwyntio a threfnu. Yn achos rhai plant, gall gwrando, canolbwyntio a dysgu sut i drefnu eu hunain fod yn anodd.
Dyma rywfaint o syniadau i gynorthwyo eich plentyn i ddatblygu'r sgiliau hyn:
- Paratowch linell amser gartref, ac os gallwch chi, cadwch at y drefn oherwydd mae gallu rhagweld beth sy'n digwydd yn bwysig i lawer o blant a phobl ifanc. Gallwch lunio'r llinell amser ar fwrdd du/bwrdd gwyn neu ddarn o bapur. Gallwch ddefnyddio ffotograffau, lluniau, geiriau neu gyfuniad o'r tri, yn dibynnu ar beth sy'n addas o ran anghenion eich plentyn/person ifanc.
- Pennwch adegau penodol i bethau ddigwydd, e.e. deffro, chwarae, gwneud gwaith cartref, cynorthwyo â thasgau, gwylio'r teledu, chwarae gemau fideo a mynd i'r gwely.
- Arddangoswch yr amserlen yn rhywle yn eich cartref ble gall pawb ei gweld.
Sefydlwch drefn o ran gwneud gwaith cartref
- Datblygwch system i gwblhau gwaith cartref.
- Dewiswch lecyn tawel heb unrhyw beth i wrthdynnu sylw (e.e., pobl eraill, set deledu, gemau fideo ac ati).
- Rhannwch dasgau gwaith cartref yn dalpiau llai a phennwch egwyliau rheolaidd, e.e., gallai eich plentyn/person ifanc gael byrbryd ar ôl cyrraedd adref o'r ysgol ac yna chwarae neu ymlacio am 15 munud cyn mynd ati i wneud eu gwaith cartref.
- Cofiwch oedi'n rheolaidd i gael 'egwyliau symud' sy'n caniatáu i'ch plentyn/person ifanc godi, symud a gwneud rhywbeth y byddant yn ei fwynhau, cyn cwblhau'r dasg.
- Gallech ddefnyddio dull amser gweledol i'w helpu i wybod faint o amser sy'n weddill e.e., 20 munud o waith, egwyl am 5 munud (visual of a visual timer).
- Cofiwch sicrhau hefyd y caiff eich plentyn neu eich person ifanc ddigonedd o anogaeth.
Paratowch at y diwrnod ymlaen llaw.
Gall boreau fod yn adegau gwyllt fel ffair. Dyma rywfaint o gynghorion i helpu eich plentyn/person ifanc i baratoi at y diwrnod a bod yn fwy trefnus.
- Cynorthwywch eich plentyn/person ifanc i sicrhau bod eu pethau'n barod y noson cynt e.e., helpwch nhw i osod eu dillad ar gadair yn barod at y diwrnod dilynol, cynorthwywch ac anogwch nhw i baratoi eu bag ysgol ac ati.
- Bydd sefydlu trefn a sicrhau y daw hynny'n arfer yn helpu eich plentyn/person ifanc i fod yn fwy trefnus wrth iddynt dyfu.
Pennwch reolau'r aelwyd.
- Diben rheolau'r aelwyd yw egluro beth yw'r disgwyliadau yn y cartref a sicrhau bod pawb yn gytûn.
- Cynhwyswch eich plentyn/person ifanc yn y gwaith o sefydlu'r rheolau; fe wnaiff hyn eu helpu i'w deall a chadw atynt.
- Sicrhewch y bydd y rheolau yn eglur, yn syml, yn benodol ac yn gyson.
- Treuliwch amser yn egluro'r rheolau i'r teulu ac eglurwch unrhyw ganlyniadau (gan ddefnyddio geiriau neu gymhorthion gweledol, e.e. ffotograffau, symbolau ac ati) sy'n deillio o dorri'r rheolau.
- Arddangoswch y rheolau yn y cartref fel y gall pawb eu gweld.
- Dylai canlyniadau torri rheolau fod yn deg a chyson. Yn aml iawn, canlyniadau naturiol yw'r rhai gorau.
- Ar ôl cwblhau canlyniad, dylai'r plentyn/person ifanc ailgychwyn â llechen lân.
- Peidiwch fyth â defnyddio cosbau corfforol.
Byddwch yn Gyson
- Mae'n bwysig bob amser sicrhau dilyniant i unrhyw beth y byddwch yn ei ddweud.
- Peidiwch ag addo pethau na allwch eu cyflawni, a chofiwch bob amser geisio â gwneud yr hyn y byddwch yn dweud eich bod yn bwriadu ei wneud.
- Pan fydd eich plentyn/person ifanc yn torri'r rheolau, rhybuddiwch nhw unwaith yn unig gan ddefnyddio llais digyffro, gan eu hatgoffa am y canlyniad, e.e., os gwnei di ddal ati i gicio'r bêl-droed yn y lolfa, fydda i'n cadw'r bêl-droed am weddill y diwrnod.
- Os na fydd y rhybudd yn llwyddo, ewch ati'n ddigyffro i weithredu'r canlyniad.
- Ceisiwch beidio â chychwyn trafod pa mor deg neu annheg fydd hynny.
Byddwch yn Gadarnhaol
- Dywedwch wrth eich plentyn/person ifanc beth rydych am iddynt wneud, nid beth na ddylent wneud, e.e. yn lle dweud "paid â rhedeg", gallech ddweud "cerdda".
- Bydd plant/pobl ifanc sy'n cael trafferth dal sylw a chanolbwyntio yn aml yn cael gwybod beth fyddant yn ei wneud o'i le, felly dylid eu canmol bob amser am wneud pethau da, ni waeth pa mor ddisylw fydd y pethau hynny.
- Manteisiwch ar bob cyfle i wobrwyo a chanmol eich plentyn/person ifanc am wneud pethau da, e.e., cau'r drws yn dawel neu wisgo.
Rhowch sylw i'r ymdrech yn hytrach na'r canlyniadau
- Dylech ganmol, annog a gwobrwyo eich plentyn/pobl ifanc am eu hymdrechion i gwblhau gwaith a thasgau, nid am y canlyniad neu'r radd terfynol yn unig.
Byddwch yn eglur bob amser
- Yn gyntaf, sicrhewch eu bod yn rhoi sylw i chi cyn siarad â nhw. Gallech wneud hyn trwy alw eu henw, eu tapio'n ysgafn ar yr ysgwydd a dod i lawr at eu lefel.
- Sicrhewch fod eich plentyn/person ifanc yn deall beth fyddwch yn ei ddweud. Ceisiwch sicrhau bod eich cyfarwyddiadau yn gryno a phenodol. Rhannwch gyfarwyddiadau hirach yn dalpiau llai i'w helpu i ddeall a chofio beth fyddwch wedi'i ddweud.
- Gall fod yn ddefnyddiol gofyn iddynt ailadrodd y cyfarwyddiadau i chi, fel gallwch sicrhau eu bod wedi deall.
- Edrychwch ar wyneb eich plentyn/person ifanc, a dywedwch (gan ddefnyddio llais eglur a digyffro) beth yn union yr hoffech iddynt ei wneud.
- Cofiwch ganmol eich plentyn/person ifanc ar ôl iddynt gwblhau bob cam.
Gwnewch ymarfer corff
- Mae bod yn egnïol yn cynorthwyo pobl i roi sylw a chanolbwyntio.
- Yn aml iawn, gall gweithgareddau sy'n gorfodi'r plentyn/person ifanc i roi sylw i symudiadau'r corff (e.e. gymnasteg neu ddawns) fod yn ddefnyddiol.
- I ddatblygu eu gallu i roi sylw a chanolbwyntio. Gall chwaraeon timau fod yn weithgareddau hynod o ysgogol oherwydd bydd pobl ifanc yn aml yn awyddus i ennill!
- Gall 'egwyliau symud' rheolaidd yn ystod gweithgareddau helpu plant a phobl ifanc i gynnal eu sylw.
- Gallai hynny gynnwys rhywfaint o 'amser gwingo' yn ystod gweithgaredd neu oedi'r gweithgaredd, codi a symud o gwmpas cyn dychwelyd ac ailafael yn y gwaith.
Cynghorion syml i roi cynnig arnynt
- Dylech osgoi 'amldasgio' - ceisiwch wneud un peth ar y tro; fe wnaiff hyn eich helpu i gynnal sylw.
- Rhannwch y diwrnod yn gyfnodau byrrach; gall amserlenni gweledol fod yn ddefnyddiol i wneud hyn.
- Rhannwch waith a thasgau yn gamau llai a mwy hylaw a chofiwch gael egwyliau rheolaidd. Bydd egwyliau rheolaidd yn eich helpu i gynnal sylw yn ystod tasgau.
- Defnyddiwch amserydd - gall hynny eich helpu i wybod faint o amser sy'n weddill. Gall gwybod y cewch chi egwyl arall ymhen dim ond pum munud eich helpu i gynnal eich sylw.
- Defnyddiwch ddulliau atgoffa gweledol - crëwch ddulliau atgoffa i'ch helpu i gofio a chadw ar y trywydd iawn! Gallech lunio rhestr, defnyddio nodyn gludiog, defnyddio lluniau fel awgrymiadau neu osod larwm atgoffa ar eich ffôn.
- Defnyddiwch eitem gwingo - bydd eitem gwingo yn helpu rhai pobl i ganolbwyntio ac yn eu galluogi i wrando'n haws. Ceir pob mathau o eitemau gwingo gwahanol i gadw'ch dwylo'n brysur, fel gall eich meddwl ganolbwyntio.