Mae'n bosibl bod pobl ifanc sy'n defnyddio'r tîm niwroddatblygiadol i gael asesiad pellach hefyd yn profi problemau o ran eu hiechyd meddwl. Mae tystiolaeth sy'n awgrymu bod pobl ifanc â phroffilau niwroddatblygiadol hefyd yn profi: gorbryder, hwyliau isel, syniadaeth hunanladdol ac ymddygiad hunan-niweidio. Mae’n bosibl iawn y bydd hyd yn oed y bobl ifanc hynny nad ydynt o reidrwydd yn cael diagnosis ffurfiol yn profi rhai problemau o ran eu hiechyd meddwl. Ond, cofiwch na fydd pob unigolyn ifanc yn profi anawsterau iechyd meddwl.
Gorbryder
Gall pob math o bethau gwahanol gychwyn gorbryder ac mae rhai enghreifftiau’n cynnwys: poeni am fynd i rywle newydd, cyfarfod â phobl, lleoedd prysur/swnllyd, ofn peidio â gwybod beth i’w ddweud neu ei wneud neu beth sy’n mynd i ddigwydd, ofn gwneud camgymeriad a’i gael yn anghywir neu fethu â gwneud pethau. Weithiau nid yw pobl ifanc yn gallu dweud pam eu bod nhw'n teimlo fel hyn.
Mae hi'n bwysig iawn gwybod bod gorbryder yn rhywbeth cyffredin iawn a bod llawer iawn o bobl yn ei brofi ar ryw adeg yn eu bywyd, yn oedolion yn ogystal â phobl ifanc. Un peth sy'n dda yw bod modd i chi wneud rhywbeth i'w leihau, ei reoli'n well, ac mewn rhai achosion, ei rwystro'n gyfan gwbl. Gallwch wneud hyn ar eich pen eich hun drwy ei ddeall, darllen amdano a dysgu sut i'w reoli. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen cymorth gan eich rhieni, eich gofalwyr neu weithwyr proffesiynol fel CAMHS neu gwnselwyr yn yr ysgol. Rhowch gynnig ar siarad am sut rydych chi'n teimlo gyda rhywun rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn eu cwmni.
Hwyliau isel / iselder
Weithiau mae'n bosibl i ni adnabod beth sy'n achosi gorbryder. Gall fod yn rhywbeth drwg sy’n digwydd i ni, colli rhywun agos neu gael trafferth go iawn i ffitio mewn gyda'n ffrindiau. Weithiau mae methu â chanolbwyntio neu wneud yr hyn sy'n cael ei ofyn yn gallu bod yn rhwystredig ac yn gwneud i ni deimlo'n drist neu'n anhapus.
Mae'n bwysig gwybod bod y teimladau hyn yn gyffredin iawn a bod yna lawer iawn o help i'w gael. Weithiau mae cydnabod eich bod yn teimlo fel hyn a'i rannu gyda rhywun arall y gallwch ymddiried ynddynt yn gallu bod o gymorth mawr. Mae'n beth da dweud wrth rywun sut rydych chi'n teimlo fel eu bod nhw’n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth i chi deimlo'n well a'ch helpu i ddysgu am ffyrdd o reoli sut rydych chi'n teimlo. Ar brydiau, efallai y bydd ar rai pobl ifanc angen help gan weithwyr proffesiynol i drafod y ffordd orau i reoli sut maent yn teimlo. Mae rhai dolenni am adnoddau sy'n ymwneud â hwyliau isel/iselder wedi eu rhestru isod.
Syniadau hunanladdol a hunan-niwed
Mae yna adegau pan fydd rhai pobl ifanc yn cael eu llethu cymaint gan yr hyn sy'n digwydd iddynt fel eu bod yn meddwl niweidio eu hunain neu ddiweddu eu bywyd.
Os ydych chi'n teimlo fel hyn, mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i'ch helpu eich hun. Gallwch siarad â rhywun am sut rydych chi'n teimlo. Gallwch hefyd dynnu eich sylw drwy wneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau'n fawr fel gwrando ar gerddoriaeth neu chwarae eich hoff gêm neu dreulio amser gyda ffrindiau.
Os bydd y teimladau hyn yn parhau, mae'n bwysig iawn eich bod chi’n dweud wrth rywun gan fod llawer o help ar gael i reoli'r meddyliau hyn. Os ydych chi'n cael trafferth, siaradwch â rhywun y gallwch ymddiried ynddo fel ffrind, rhiant neu nain neu daid, athro rydych chi'n ymddiried ynddo, eich meddyg neu Childline.
Ymddygiad heriol
Gall fod yn anodd i bob un ohonom reoli ein hemosiynau mawr; gall fod yn arbennig o anodd i blant a phobl ifanc sydd â phroffiliau niwroddatblygiadol. Gallant deimlo'n ofidus neu'n rhwystredig oherwydd yr anawsterau y maent yn eu profi o ddydd i ddydd ac weithiau byddant yn cyfathrebu hyn trwy ymddygiadau sy'n ein herio. Gall yr ymddygiad hwn edrych fel: bod yn oriog, dweud pethau cas, taro rhywun, torri neu daflu pethau, neu wrthod gwneud rhywbeth y gofynnwyd iddynt ei wneud.
Pam mae'n digwydd?
Rydym ni i gyd ar adegau, yn teimlo ein bod yn cael llethu ac nid yw plant a phobl ifanc yn wahanol. Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn ymwybodol o sut maent yn teimlo ac yn sylwi pan fyddant yn dechrau teimlo'n rhwystredig. Bydd eraill yn ei chael hi'n fwy anodd a heb ddysgu beth yw eu 'sbardunau' eto. Mae nifer o strategaethau a ellir eu defnyddio i gefnogi pobl ifanc reoli eu hemosiynau.
Beth alla’ i ei wneud?