Neidio i'r prif gynnwy

Barcud: Cefnogaeth Gymunedol Ddwys

Mae'r dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm. Penwythnosau a Gwyliau Banc, 1pm i 9pm.

Mae Barcud yn cynnwys nifer o staff arbenigol gan gynnwys nyrsys, seicolegwyr clinigol, seiciatryddion ac athro. Fel tîm rydym yn darparu cymorth cymunedol dwys ar gyfer Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed. Rydym wedi ein lleoli yn adeilad Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru (NWAS) yn Abergele a hefyd yn teithio i gartrefi pobl ifanc yn y gymuned os a phan fydd hyn o gymorth, gan weithio hefyd gyda gwasanaethau eraill pan fo angen cymorth mwy dwys. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda staff addysg i gefnogi pobl ifanc gyda'u hanghenion addysg a hyfforddiant.

Sut gallwn ni eich helpu chi?

Byddwn yn gweithio'n agos gyda chi a/neu gyda'ch teulu a'ch gofalwyr i'ch helpu i reoli eich anawsterau. Rydym yn cydnabod bod pob person ifanc fel chi yn unigryw a byddwn yn anelu at roi lefel o gefnogaeth i chi sy'n briodol i gefnogi eich cryfderau a'ch anghenion eich hun.

Cysylltwch â ni

Ffôn: 03000 855 288
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am, 9pm
Penwythnosau a Gwyliau Banc, 1pm i 9pm