Neidio i'r prif gynnwy

Gofal y Fron

Mae Tîm Gofal y Fron yn arbenigo mewn rhoi diagnosis a rheoli cyflyrau’r fron.

Mae’r tîm wedi’i wneud o ystod o weithwyr proffesiynol sy’n cynnwys llawfeddygon, nyrsys gofal y fron, oncolegwyr, radiolegwyr a phatholegwyr. Mae aelodau o dîm nyrsio gofal y fron wedi’u hyfforddi’n dda mewn ymdrin ag ystod o broblemau’r fron.

Mae’r cyngor a’r driniaeth wedi’i deilwra at anghenion unigol a byddant yn gwneud eu gorau i dawelu meddwl cleifion a rhoi gwybod iddynt am eu cyflwr a’u triniaeth.

Rydym yn ceisio rhoi diagnosis ar gyflyrau cyn gynted ag sy’n bosibl ac mewn rhai achosion efallai bydd yn bosibl cael archwiliad, pelydrau-x a’ch rhyddhau o’r clinig mewn un ymweliad. Os bydd angen gwneud mwy o brofion, rydym yn ceisio gwneud y rhain a chael y canlyniadau yn ôl cyn gynted ag sy’n bosibl. Mae profion rheolaidd yn cynnwys mamogramau, uwchsain, sugno codennau (draenio) a biopsi craidd (cymryd samplau o’r feinwe).

Os bydd angen llawfeddygaeth, gellir gwneud rhai triniaethau fel llawfeddygaeth dydd (e.e. tynnu rhai o lympiau’r fron) a gall rhai llawfeddygaeth ar gyfer canser fod yn addas ar gyfer llawfeddygaeth dydd. Bydd angen i rai triniaethau gael eu gwneud fel arhosiad claf mewnol.