Mae’n bwysig eich bod chi, neu rywun sy’n eich helpu, yn deall eich meddyginiaethau fel y gallwch gael y gorau ohonynt. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod:
Efallai y bydd rhai cynhyrchion yn niweidiol os ydych yn eu cymryd ar y cyd â rhai meddyginiaethau. Bydd eich Meddyg Teulu neu Fferyllydd Cymunedol yn gallu sôn wrthych am effeithiau posib y canlynol ar eich meddyginiaethau:
Cofiwch
Mae’n ddefnyddiol cadw rhestr ddiweddar o enwau eich meddyginiaethau, y dos a’r amseroedd i’w cymryd fel y gall helpu clinigwyr wneud asesiadau os ydych yn cael eich derbyn i’r ysbyty neu angen defnyddio gwasanaethau gofal iechyd eraill.
Adolygiad o Feddyginiaethau Amlroddadwy
Os ydych yn cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd, ambell dro bydd rhaid i chi fynd i’r feddygfa am adolygiad i wneud yn siŵr fod eich triniaeth mor ddiogel â phosib. Mae’n hynod o bwysig eich bod yn mynychu’r apwyntiadau yma fel y gellir monitro eich cyflwr ac adolygu eich meddyginiaeth er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud ein gorau i’ch cadw’n iach.
Mae Adolygiad o Feddyginiaethau yn bwysig er mwyn gweld:
Bydd yr adolygiad hefyd yn helpu i wneud yn siŵr fod unrhyw brofion pwysau gwaed, adolygiadau asthma neu brofion gwaed wedi’u cynnal.
Am fwy o wybodaeth darllenwch y daflen Arweiniad i Adolygiad o Feddyginiaethau.
Adolygiad o’r Defnydd o Feddyginiaethau (MUR) mewn Fferyllfa Gymunedol
Os ydych yn cymryd mwy nag un feddyginiaeth ar bresgripsiwn yn rheolaidd a/neu’n cymryd meddyginiaethau at salwch tymor hir (fel asthma, arthritis, diabetes neu epilepsi) efallai y bydd eich Fferyllydd Cymunedol yn eich gwahodd am Adolygiad o’r Defnydd o Feddyginiaethau (MUR). Apwyntiad gyda fferyllydd cymunedol yw hwn i ganolbwyntio ar y ffordd mae eich meddyginiaethau yn gweithio i chi. Fel arfer caiff ei gynnal mewn rhan ar wahân o’ch fferyllfa (siop fferyllydd) leol lle gallwch siarad yn gyfrinachol. Un o wasanaethau’r GIG yw hwn - nid oes angen i chi dalu amdano.
Am fwy o wybodaeth darllenwch y daflen Adolygu'r Defnydd o Feddyginiaethau: Deall eich Meddyginiaethau.
Cael Gwared â Meddyginiaethau Diangen
Ni ellir defnyddio meddyginiaethau sy’n cael eu dychwelyd i’r fferyllfa, hyd yn oed os nad ydynt wedi’u hagor, ond mae cadw meddyginiaethau nad oes arnoch eu hangen mwyach yn beryglus iawn. Dylech eu dychwelyd i’r fferyllfa bob amser i gael eu gwaredu’n ddiogel.
Yng Ngogledd Cymru mae 29 tunnell o feddyginiaethau yn cael eu casglu i’w difa bob blwyddyn, sy’n werth rhyw £3.5 miliwn.
Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich GIG:
STOPIWCH cyn gofyn am feddyginiaethau
MEDDWL pa feddyginiaethau sydd arnoch eu hangen mewn gwirionedd
EWCH ymlaen archebwch yr hyn sydd arnoch ei angen. Cofiwch
WIRIO eich meddyginiaethau bob tro cyn gadael y fferyllfa
Trwy archebu’r hyn sydd arnoch ei angen yn unig, a pheidio cadw stoc o feddyginiaethau, byddwch yn lleihau’r risg o:
Bydd gwastraffu llai o feddyginiaethau yn golygu bod mwy o arian ar gael i ofalu am gleifion.