Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor am Feddyginiaethau

Deall eich Meddyginiaethau

Mae’n bwysig eich bod chi, neu rywun sy’n eich helpu, yn deall eich meddyginiaethau fel y gallwch gael y gorau ohonynt. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod:

  • Enwau eich meddyginiaethau
  • Pam rydych yn eu defnyddio
  • Pryd a sut i’w defnyddio
  • Pa rai o’ch meddyginiaethau sy’n hanfodol, a pha rai sydd ond i’w defnyddio pan fydd angen
  • Sgil effeithiau posib

Efallai y bydd rhai cynhyrchion yn niweidiol os ydych yn eu cymryd ar y cyd â rhai meddyginiaethau. Bydd eich Meddyg Teulu neu Fferyllydd Cymunedol yn gallu sôn wrthych am effeithiau posib y canlynol ar eich meddyginiaethau:

  • Moddion Cyflenwol ac amgen
  • Cynhyrchion Llysieuol
  • Meddyginiaethau dros y cownter (sef meddyginiaethau y gallwch eu prynu heb fod angen presgripsiwn, fel paracetamol neu ibuprofen, sydd ar gael mewn fferyllfeydd/siopau fferyllydd, archfarchnadoedd a siopau eraill)

Cofiwch

  • Ddarllen y daflen wybodaeth sy’n dod gyda’ch meddyginiaeth bob tro
  • Holi eich meddyg, fferyllydd neu nyrs am gyngor os ydych yn ansicr am eich meddyginiaeth, neu ffonio GIG 111 Cymru ar 0845 46 47
  • Peidio â rhannu eich meddyginiaethau gyda phobl eraill a pheidiwch â chymryd meddyginiaethau rhywun arall. Dewiswyd eich meddyginiaethau i ateb eich gofynion chi’n benodol – gall rhannu meddyginiaethau gyda theulu a ffrindiau fod yn beryglus dros ben

Mae’n ddefnyddiol cadw rhestr ddiweddar o enwau eich meddyginiaethau, y dos a’r amseroedd i’w cymryd fel y gall helpu clinigwyr wneud asesiadau os ydych yn cael eich derbyn i’r ysbyty neu angen defnyddio gwasanaethau gofal iechyd eraill.

Adolygu eich Meddyginiaethau yn Rheolaidd

Adolygiad o Feddyginiaethau Amlroddadwy

Os ydych yn cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd, ambell dro bydd rhaid i chi fynd i’r feddygfa am adolygiad i wneud yn siŵr fod eich triniaeth mor ddiogel â phosib. Mae’n hynod o bwysig eich bod yn mynychu’r apwyntiadau yma fel y gellir monitro eich cyflwr ac adolygu eich meddyginiaeth er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud ein gorau i’ch cadw’n iach.

Mae Adolygiad o Feddyginiaethau yn bwysig er mwyn gweld:

  • Bod eich meddyginiaethau yn gweithio’n iawn a’ch bod yn eu cymryd yn unol â’r presgripsiwn
  • NJad ydych yn cael unrhyw sgil effeithiau
  • Eich bod yn cymryd y meddyginiaethau mwyaf priodol ar gyfer eich problemau

Bydd yr adolygiad hefyd yn helpu i wneud yn siŵr fod unrhyw brofion pwysau gwaed, adolygiadau asthma neu brofion gwaed wedi’u cynnal.

Am fwy o wybodaeth darllenwch y daflen Arweiniad i Adolygiad o Feddyginiaethau.

Adolygiad o’r Defnydd o Feddyginiaethau (MUR) mewn Fferyllfa Gymunedol

Os ydych yn cymryd mwy nag un feddyginiaeth ar bresgripsiwn yn rheolaidd a/neu’n cymryd meddyginiaethau at salwch tymor hir (fel asthma, arthritis, diabetes neu epilepsi) efallai y bydd eich Fferyllydd Cymunedol yn eich gwahodd am Adolygiad o’r Defnydd o Feddyginiaethau (MUR). Apwyntiad gyda fferyllydd cymunedol yw hwn i ganolbwyntio ar y ffordd mae eich meddyginiaethau yn gweithio i chi. Fel arfer caiff ei gynnal mewn rhan ar wahân o’ch fferyllfa (siop fferyllydd) leol lle gallwch siarad yn gyfrinachol. Un o wasanaethau’r GIG yw hwn - nid oes angen i chi dalu amdano. 

Am fwy o wybodaeth darllenwch y daflen Adolygu'r Defnydd o Feddyginiaethau: Deall eich Meddyginiaethau.

Cael Gwared â Meddyginiaethau Diangen

Ni ellir defnyddio meddyginiaethau sy’n cael eu dychwelyd i’r fferyllfa, hyd yn oed os nad ydynt wedi’u hagor, ond mae cadw meddyginiaethau nad oes arnoch eu hangen mwyach yn beryglus iawn. Dylech eu dychwelyd i’r fferyllfa bob amser i gael eu gwaredu’n ddiogel.

Yng Ngogledd Cymru mae 29 tunnell o feddyginiaethau yn cael eu casglu i’w difa bob blwyddyn, sy’n werth rhyw £3.5 miliwn.

Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich GIG:

STOPIWCH cyn gofyn am feddyginiaethau

MEDDWL pa feddyginiaethau sydd arnoch eu hangen mewn gwirionedd

EWCH ymlaen archebwch yr hyn sydd arnoch ei angen. Cofiwch

WIRIO eich meddyginiaethau bob tro cyn gadael y fferyllfa

Trwy archebu’r hyn sydd arnoch ei angen yn unig, a pheidio cadw stoc o feddyginiaethau, byddwch yn lleihau’r risg o:

  • Gymryd meddyginiaeth sydd wedi’i stopio neu’i newid yn ddamweiniol
  • Cymryd meddyginiaethau sydd wedi mynd yn rhy hen
  • Meddyginiaethau yn mynd i’r dwylo anghywir

Bydd gwastraffu llai o feddyginiaethau yn golygu bod mwy o arian ar gael i ofalu am gleifion.