Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllfa a Rheoli Meddyginiaethau

Mae fferyllfeydd dosbarthu yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Ysbyty Glan Clwyd
Mae’r Fferyllfa wedi ei lleoli ar y llawr gwaelod yng nghefn yr ysbyty, heibio’r lifftiau a’r Uned Feddygol Lem.

Ysbyty Gwynedd
Mae’r Fferyllfa ar y llawr gwaelod, gyferbyn â’r lifftiau.

Ysbyty Maelor Wrecsam
Mae’r Fferyllfa wedi ei lleoli drwy'r cyntedd. Pan gyrhaeddwch brif goridor yr ysbyty trowch i'r dde. Y Fferyllfa yw'r ail adran ar y chwith.

Fferyllfeydd Cymunedol

Mae manylion eich fferyllfa gymunedol leol ar gael yn y Cyfeiriadur Gwasanaethau Lleol.

Mae mwy ar gael gan eich fferyllfa GIG leol na feddyliech chi.

Mae fferyllwyr cymunedol yn arbenigwyr ym maes meddyginiaeth a’u defnydd, ac yn gweithio i sicrhau bod cleifion yn cael y budd mwyaf o’u meddyginiaeth.

Mae fferyllfeydd modern yn fwy na dim ond lle i gasglu eich meddyginiaethau, ac mae’r gweithwyr proffesiynol gofal iechyd hyfforddedig iawn hyn yn darparu amrywiaeth o wasanaethau eraill yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn cynnwys cyngor iechyd a ffordd o fyw, gwaredu meddyginiaeth heb ei defnyddio yn ddiogel a llawer mwy gan gynnwys:

Adolygu’r defnydd o feddyginiaeth/adolygu meddyginiaethau wrth ryddhau:

Bellach mae’r rhan fwyaf o fferyllfeydd yng Ngogledd Cymru yn cynnig gwasanaeth Adolygu’r Defnydd o Feddyginiaeth lle gallwch eistedd mewn ardal ymgynghori breifat a thrafod eich meddyginiaeth. Mae’r gwasanaeth cyfrinachol hwn sydd am ddim yn eich galluogi i ddysgu mwy am eich meddyginiaeth, yn nodi unrhyw broblemau a bydd yn eich helpu i gymryd eich meddyginiaeth yn y ffordd orau. Mae’n arbennig o ddefnyddiol os ydych yn cymryd nifer o wahanol feddyginiaeth neu am feddyginiaeth tymor hir. Mae’r Gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau ar gyfer pobl sydd wedi bod yn yr ysbyty’n ddiweddar ac mae’n gyfle i chi holi’r fferyllydd am unrhyw newidiadau i’ch meddyginiaethau a gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth i’w gymryd, pryd i’w gymryd, ar gyfer beth mae o a sut i’w ddefnyddio.

Gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu:

Os ydych yn ystyried rhoi’r gorau i ysmygu, gallwch holi eich fferyllydd am help oherwydd gall roi cyngor arbenigol i chi am y cynnyrch sydd ar gael. Yn y rhan fwyaf o fferyllfeydd ceir Gwasanaeth Helpa Fi i Stopio, am ddim gan y GIG lle gallwch gael cyngor, cymorth a meddyginiaeth am ddim i’ch helpu i roi’r gorau i ysmygu. Os nad yw’ch fferyllfa leol yn cynnig y gwasanaeth hwn cysylltwch â Helpa Fi i Stopio i gael mwy o wybodaeth a darganfod ble mae eich gwasanaeth agosaf. 

Dull Atal Cenhedlu Brys – ‘Pilsen Bore Wedyn’:

Os ydych wedi cael rhyw heb ddefnyddio dull atal cenhedlu, neu os ydych yn meddwl bod eich dull atal cenhedlu wedi methu, efallai y byddwch yn gallu defnyddio dull atal cenhedlu brys. Gallwch gael cyngor, ac os bydd arnoch ei hangen, gallent roi’r bilsen i chi yn eich fferyllfa GIG leol – cerddwch i mewn a gofynnwch am gael siarad â’r fferyllydd. Bydd y fferyllydd yn cael sgwrs gyflym â chi’n gyntaf, i wneud yn siŵr eich bod yn gallu cymryd y feddyginiaeth hon yn ddiogel a’ch bod yn deall beth i’w wneud os na fydd yn gweithio. Mae hyn yn cael ei wneud yn breifat a bydd popeth a ddywedwch yn gyfrinachol, felly nid oes angen poeni y bydd pobl eraill yn clywed. Mae’r bilsen atal cenhedlu brys hon yn gweithio am hyd at 5 niwrnod ar ôl rhyw, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ond po gynharaf y byddwch yn ei chymryd, po fwyaf effeithiol y bydd wrth atal beichiogrwydd dieisiau. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim gan fferyllfeydd sy’n cymryd rhan.

Mân salwch ac ymholiadau iechyd eraill

Eich fferyllfa GIG leol yw’r pwynt cyswllt cyntaf delfrydol ar gyfer cleifion â salwch cyffredin ac ymholiadau iechyd eraill Gall unrhyw un weld y fferyllydd i gael cyngor heb apwyntiad a bellach mae gan y rhan fwyaf ohonynt ystafelloedd ymgynghori i gynnig mwy o breifatrwydd a chyfrinachedd. Gallwch gael cyngor a thriniaeth at ystod eang o salwch cyffredin, prynu meddyginiaethau dros y cownter, neu mewn rhai achosion, gall y fferyllydd roi triniaeth am ddim ar y GIG. Bellach mae mwy o feddyginiaeth ar gael heb bresgripsiwn a gall rhai fferyllwyr roi presgripsiwn i chi hyd yn oed, felly cyn i chi wneud apwyntiad â'ch doctor beth am alw heibio eich fferyllfa leol i weld a allant eich helpu.

Cyflyrau nodweddiadol y gall eich fferyllfa GIG leol eich helpu â nhw:

  • Dolur gwddf
  • Twymyn y gwair
  • Problemau’r croen
  • Problemau’r stumog
  • Llau
  • Problemau cyffredin ymhlith plant fel brech clwt neu frech yr ieir

Bocsys pethau miniog

Ydych chi’n chwistrellu eich meddyginiaeth yn y cartref ac a oes gennych focs pethau miniog (bin melyn, â chaead melyn neu biws). Gall eich fferyllfa GIG leol gymryd biniau llawn a rhoi un gwag i chi yn ei le, rhag i chi orfod mynd i’ch meddygfa neu’r ysbyty.

Cyflenwad brys o feddyginiaethau

Os yw eich meddyginiaethau rheolaidd wedi darfod ac os yw eich meddygfa wedi cau, mae’n bosibl y gall eich fferyllfa GIG leol roi meddyginiaethau i chi i wneud yn siwr nad ydych heb ddim.

Brechiad y ffliw

Os ydych yn gymwys i gael y brechiad ffliw, mae’n bosibl y gallwch ei chael yn eich fferyllfa GIG leol. Ffoniwch y fferyllfa neu galwch heibio i gael mwy o wybodaeth.

Mae’r gwasanaeth ar gael yn y rhan fwyaf o fferyllfeydd – holwch y fferyllfa unigol i weld pa wasanaethau maen nhw’n eu darparu.