Neidio i'r prif gynnwy

Diabetes

Mae diabetes yn gyflwr sy'n achosi i lefel siwgr gwaed unigolyn fynd yn rhy uchel. Mae dau brif fath o ddiabetes.

Diabetes math 1

Diabetes math 1 yw pan mae system imiwnedd y corff yn ymosod ar y celloedd sy'n cynhyrchu inswlin ac yn eu dinistrio. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chymorth ar ddiabetes Math 1 yma. 

Diabetes math 2

Diabetes math 2 yw lle nad yw’r corff yn cynhyrchu digon o inswlin, neu lle nad yw celloedd y corff yn adweithio gydag inswlin.

Gallwch wirio’ch risg diabetes Math 2 gan ddefnyddio’r offeryn cyfrifo ar wefan Diabetes UK.

Rydym yn cynnig nifer o wasanaethau i'ch helpu i reoli diabetes

Mae ein timau arbenigol diabetes yn darparu gwasanaethau i gefnogi oedolion sy’n byw â diabetes yng Ngogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • Clinigau arbenigol diabetes
  • Gwybodaeth a chyngor i'r rhai gyda Diabetes Math 1 a Math 2
  • Cyrsiau cyfrif carbohydradau
  • Inswlin a meddyginiaeth i reoli diabetes
  • Gwasanaeth pwmp inswlin
  • Gwasanaeth pontio ar gyfer pobl ifanc  - proses strwythuredig dwy flynedd o hyd i gefnogi plant hyd at oedolion ifanc sy’n byw â diabetes
  • Adolygiad gan nyrsys arbenigol i asesu'r rhai sydd â diabetes cymhleth er mwyn helpu i gynllunio a darparu triniaeth
  • Gwasanaeth cymorth a chyngor dros y ffôn
  • Gwybodaeth a chymorth i ofalwyr
  • Monitro glwcos fflach

Nid yw’r adnoddau gan Diabetes UK ar gael yn Gymraeg.

Gwybodaeth ac adnoddau am ddiabetes

Dolenni ac adnoddau defnyddiol am ddiabetes.

Cysylltwch â'n gwasanaethau Diabetes

Manylion cyswllt ar gyfer eich gwasanaethau Diabetes lleol.