Neidio i'r prif gynnwy

Cludiant Cleifion Di-argyfwng y GIG (NEPTS)

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn darparu Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys i gleifion ledled Cymru nad ydynt yn gallu, am resymau meddygol, wneud eu ffordd eu hunain yn ôl ac ymlaen i'w hapwyntiadau ysbyty.

Mae'n adnodd hanfodol i helpu'r cleifion hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaeth ac ni ddylai gael ei ddefnyddio gan y rhai heb angen meddygol.

Sylwch nad yw angen am driniaeth yn awgrymu angen clinigol am gludiant yn awtomatig. Mae yna broses gymhwysedd y mae'n ofynnol i bob claf fynd drwyddi i sicrhau bod eich anghenion yn briodol ar gyfer y gwasanaeth.

Ar gyfer cleifion y canfyddir nad ydynt yn gymwys, mae Tîm Cludiant Amgen a all drafod opsiynau cludo yn eich ardal chi. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am opsiynau trafnidiaeth gymunedol o'n gwefan.

Gallech fod yn gymwys i gael cludiant ysbyty os:

  • Rydych chi'n derbyn dialysis rheolaidd neu driniaeth ganser;
  • Mae angen stretsier arnoch chi ar gyfer y daith;
  • Mae angen ocsigen arnoch ar gyfer y daith;
  • Mae angen i chi deithio yn eich cadair olwyn eich hun;
  • Ni allwch gerdded heb gefnogaeth barhaus;
  • Ni allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd bod gennych gyflwr meddygol a fyddai'n peryglu eich urddas;
  • Mae gennych anawsterau cyfathrebu difrifol neu;
  • Byddwch yn profi sgîl-effeithiau o ganlyniad i'r driniaeth ar gyfer eich cyflwr.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar wefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru neu ffoniwch 0300 123 2303.

 

Canslo Trafnidiaeth

Mae hyd at 100,000 o siwrneiau Cludiant Cleifion Di-frys bob blwyddyn yn arwain at y claf yn peidio teithio neu ddim yn y man casglu pan fydd ein criwiau'n cyrraedd. Mae canslo cludiant, os nad oes ei angen mwyach, yn bwysig iawn ac mae'n caniatáu i'r Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys gynnig y slot i glaf arall.

Os ydych chi'n gymwys ac yn bwcio cludiant ond bod angen i chi ganslo, ewch i wefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru  neu ffoniwch 0300 123 2303.