Neidio i'r prif gynnwy

Rhagsefydlu a lles emosiynol

Gall paratoi eich hun ar lefel emosiynol am driniaeth fod yn heriol, yn enwedig pan fyddwch yn wynebu diagnosis canser sydyn. Mae'n normal profi teimladau amrywiol ar adeg fel hon, ac mae rheoli straen yn hollbwysig. Mae gan bobl ffyrdd gwahanol o ymdopi, fel gofyn am wybodaeth, datrys problemau, defnyddio technegau gwrthdynnu'r sylw, lleihau effaith, defnyddio hiwmor, neu siarad am bethau gydag eraill. Efallai y bydd gofyn i ffrindiau weddïo hefyd yn rhoi cymorth. Mae aelodau Gwasanaeth Caplaniaeth BIPBC ar gael i'ch cwnsela ac i roi cymorth.

Mae paratoi ar lefel seicolegol ar gyfer eich triniaeth yn bwysig

Mae paratoi ar lefel seicolegol yn hanfodol gan y gall gael effaith bositif ar ganlyniadau clinigol byrdymor a hirdymor. Mae gwell llesiant seicolegol yn gwella'r broses iacháu ac adfer. Mae cydnabod newidiadau i'ch teimladau a dod o hyd i ffyrdd effeithiol o'u rheoli'n hollbwysig i gymryd rhan mewn triniaeth ac adferiad. Chi yw'r arbenigwr o ran deall a rheoli eich teimladau eich hun.

Beth sydd ynghlwm wrth baratoi ar lefel seicolegol?

Mae paratoi ar lefel seicolegol yn cynnwys mynd i'r afael â phryderon ynghylch triniaeth, gofyn am wybodaeth, a dod o hyd i ffyrdd o deimlo bod gennych fwy o reolaeth dros benderfyniadau. Mae'n hanfodol cydnabod cyfyngiadau'r hyn y gallwch ei reoli, deall sut y gallai'ch teimladau effeithio ar eich ymddygiad, a chanfod strategaethau i reoli emosiynau anodd. Mae gwybod pa bryd i ofyn am gymorth hefyd yn rhan o'r broses baratoi.

Eich Rhestr Wirio Lles Seicolegol

Defnyddiwch yr Offeryn Hunanwerthuso Lles i ganfod pa fo angen cymorth arnoch ac i bwy i ofyn iddo am hyn. Gall y rhestr wirio hon eich arwain o ran gwella eich lles emosiynol a hybu adferiad hirdymor.

Cafodd y cynnwys uchod gan gynnwys yr Offer Hunanwerthuso Lles ei greu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac mae wedi cael ei addasu ar gyfer gwefan BIPBC.

Mae gan lawer o'r elusennau linellau cymorth os oes arnoch angen cymorth neu os hoffech siarad â rhywun am eich sefyllfa, mae rhifau ffôn y llinell gymorth wedi'u rhestru isod.

Lles meddyliol

 Mae Fedra' i yn darparu cymorth hwylus ar faterion amrywiol a allai fod yn peri gofid i chi neu sy'n effeithio ar eich lles meddyliol, mae hyn yn cynnwys:

  • Perthynas yn chwalu
  • Anawsterau cyflogaeth
  • Pryder cymdeithasol
  • Galar
  • Pryderon am arian
  • Unigrwydd

Caiff cymorth Fedra' i ei gynnig trwy ystod o wasanaethau ar draws Gogledd Cymru, y gellir ei gyrchu'n hawdd, heb yr angen am gyfeiriad gan feddyg teulu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar dudalennau Fedra' i ar ein hwb meddyliol - Fedra' i - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru).

Adnoddau a gwybodaeth defnyddiol:

Bwriedir i'r cyngor ar y tudalennau hyn eich helpu i baratoi ar gyfer y driniaeth sydd o'ch blaen ac i'n cynorthwyo hyd at adferiad.

Os bydd angen rhagor o gyngor a chymorth arnoch, trafodwch hyn gyda'ch gweithiwr allweddol neu'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.