Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau lleol

Dod o hyd i'ch parc lleol

Mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn awyddus i gadw'n heini'n rhad ac am ddim. Un ffordd o barhau i ymarfer corff a lleihau costau yw darganfod ble y gallwch fynd am dro yn eich ardal leol chi. Mae'n debyg bod nifer o fannau agored, meysydd chwarae, gwarchodfeydd natur, caeau chwaraeon a pharciau y gallwch ymweld â nhw'n agos at eich cartref. Un ffordd o gael gwybod ble maent wedi'u lleoli yw dod o hyd i'ch parc lleol ar gov.uk. Bwriad yr offeryn hwn yw'ch pwyntio at y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i barciau a mannau gwyrdd ar drothwy eich drws. Mae hefyd yn ffordd wych o ymgorffori ymarfer corff i'ch arferion o ddydd i ddydd gan nad yw ymarfer corff bob amser yn golygu ymuno â'r gampfa.

Park Run

Mae Parkrun yn cynnig digwyddiadau cymunedol wythnosol yn rhad ac am ddim mewn parciau lleol a mannau agored yn genedlaethol. Mae digwyddiadau boreol dydd Sadwrn yn ymestyn dros 5km ac mae croeso i gyfranogyr gerdded, loncian, rhedeg neu wneud cymysgedd o bob un o'r tri pheth hyn. Digwyddiadau cymunedol cynhwysol yw'r rhain ac ni fydd neb yn gorffen yn y safle olaf. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.parkrun.org.uk.

5K Your Way

Menter gymunedol yw ‘5k Your Way, Move Against Cancer’ er mwyn annog y rhai sy'n byw gyda chanser ac yn sgil hynny, yn cynnwys teuluoedd, ffrindiau, a'r rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau canser, i gerdded, loncian, beicio, rhedeg, cefnogi neu wirfoddoli mewn digwyddiad parkrun 5k lleol ar y dydd Sadwrn olaf o bob mis. I gael rhagor o wybodaeth neu i ddod o hyd i'r digwyddiad Parkrun neu 5KYway yn eich ardal leol chi, ewch i - https://www.moveagainstcancer.org/5k-your-way/. Mae’n rhad ac am ddim, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw cofrestru â Parkrun a 5KYW: https://5kyourway.org/register.

Byw’n Llawn - Meddwlgarwch a Chanser yng Ngogledd Cymru

Mae'n cynnig y canlynol:

  • Sesiynau rhagflasu ar-lein rheolaidd ar gyfer y rhai sy'n newydd i feddwlgarwch er mwyn dysgu â beth mae'r cyfan yn ymwneud.
  • Therapi Gwybyddol ar sail Meddwlgarwch (MBCTCA) ar-lein rheolaidd dros 8 wythnos ar gyfer cyrsiau canser a addysgir mewn grwpiau bach.
  • Sesiynau dilynol ar-lein bob mis ar gyfer y rhai sy'n cwblhau'r cyrsiau.
  • Cyrsiau dydd dilynol wyneb yn wyneb er mwyn cadw sgiliau meddwlgarwch yn gyfredol.

I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sesiynau a chyrsiau, ewch i www.livingfully.org.uk.

Cysylltwch â: suewilliamsmindfulness@gmail.com neu alisonjonesmindfulness@gmail.com.

Rhif ffôn: 0784 651 3358.

Cyrsiau iechyd a lles BIPBC

Mae Swyddfa Hunanofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau iechyd a lles yn rhad ac am ddim i oedolion sy'n byw â chyflyrau iechyd hirdymor ac i ofalwyr mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru. Cwrs Ffynnu a Goroesi yn achos Canser: Nod y cwrs hwn yw helpu pobl y mae canser wedi effeithio arnynt i gynnal a gwella ansawdd eu bywyd trwy hunan-reoli.

Mae'r cyrsiau iechyd a lles ar gael ar ein gwefan, https://bipbc.gig.cymru/cyngor-iechyd/iechyd-yn-y-gymuned/cyrsiau-iechyd-a-lles/Mae ein newyddlen yn cynnwys gwybodaeth am y cyrsiau Hunanreolaeth sydd gennym ar gael Tîm Hunanofal yn PBC (cloud.microsoft).

Siaradwch ag un o'r hyfforddwyr iechyd er mwyn darganfod beth allai eich helpu chi:

Ffôn: 03000 852280.

E-bost: EPPCymru.BCUHB@wales.nhs.uk.

Materion cyllid neu gyflogaeth

Mae Macmillan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dod at ei gilydd i ddatblygu gwasanaeth gwybodaeth a chymorth ar gyfer Gogledd Cymru. 

Gwybodaeth a manylion cyswllt am yr holl ganolfannau cymorth yn rhad ac am ddim - Canolfannau Cymorth Macmillan a Gwybodaeth.

Dewis Cymru - Llesiant yng Nghymru

Os ydych chi am gael gwybodaeth neu gyngor am eich lles neu'ch bod am wybod sut y gallwch helpu rhywun arall, mae gan Dewis gyfleuster chwilio er mwyn dod o hyd i sefydliadau, gwasanaethau a digwyddiadau lleol a chenedlaethol sy'n gallu eich helpu chi.

Mae gan Dewis lawer o wybodaeth sy'n gallu eich helpu i feddwl am yr hyn sy'n bwysig i chi, ac mae ganddynt lawer o wybodaeth hefyd am bobl a gwasanaethau yn eich ardal chi sy'n gallu eich helpu gyda'r pethau sy'n bwysig i chi.

Ewch i wefan dewis.wales am ragor o wybodaeth.

Sefydliadau symudedd ac anabledd

Mae sefydliadau penodol sy'n gallu helpu os oes gennych broblemau symudedd neu anabledd: