Tinitws yw'r term ar gyfer y synau a glywir 'yn y glust neu'r clustiau' neu 'yn y pen' pan nad oes unrhyw ffynhonnell o sŵn yn amlwg. Mae'r synau fel arfer yn cael eu disgrifio fel sŵn canu, chwibanu, hisian, neu fwmian. Nid yw tinitws yn afiechyd na'n salwch, mae'n symptom amhenodol, sy'n gallu dod oherwydd 'newid' meddyliol neu gorfforol, sydd ddim o reidrwydd yn gysylltiedig â'r clyw. Ar ei ffurf ysgafn, mae tinitws yn gyffredin iawn. Mae bron pawb yn cael sŵn canu yn y clustiau, un ai heb unrhyw sbardun clir neu ar ôl amlygiad i synau uchel, yn y gwaith neu'n gymdeithasol. Mae oddeutu 10% ohonom yn profi tinitws yn aml, ac oddeutu 5% o'r boblogaeth sy'n oedolion yn y Deyrnas Unedig yn profi tinitws parhaus neu drafferthus.
O bryd i'w gilydd, mae gan unigolion tinitws sydd ar ffurf synau cerddorol adnabyddus neu hyd yn oed alawon yn hytrach na'r synau canu, hisian, mwmian ayyb mwy cyffredin. Cyfeirir at hyn fel tinitws delweddiad cerddorol neu dinitws delweddiad clywedol. Mae fel arfer yn codi mewn pobl hŷn sydd â nam ar eu clyw hefyd, ac yn aml iawn mae gan yr unigolion hynny ddiddordeb cerddorol cryf. Mae'r union fecanwaith y mae'r math hwn o dinitws yn codi ohono yn anhysbys, ond mae'n debygol o gynnwys rhannau cof clywedol yr ymennydd. Yn anffodus, mae'r math hwn o dinitws weithiau yn cael ei gamgymryd am salwch meddwl i ddechrau. Er hynny, unwaith ei fod wedi cael ei gydnabod fel tinitws yn hytrach na chyflwr seiciatrig gellir ei drin yn yr un ffordd â ffurfiau eraill o dinitws. Mae helpu colli clyw gyda chymhorthion clyw yn bwysig iawn gyda thinitws delweddiad cerddorol.
Grandewch ar y clip dilynol sydd yn disgrifio taith claf ar eu siwrnai trwy’r gwasanaeth tinitws Awdioloeg Gogledd Cymru:
Y cam cyntaf yw mynd i weld eich Meddyg Teulu. Mewn rhai meysydd ar draws y Bwrdd Iechyd, efallai y byddwch yn cael eich gweld gan awdiolegydd gofal cychwynnol yn eich meddygfa. Bydd yr awdiolegydd gofal cychwynnol, neu eich Meddyg Teulu yn ymchwilio i weld a yw eich tinitws yn cael ei achosi gan gyflwr dros dro, ac yna efallai y byddent yn eich cyfeirio at yr adran awdioleg, neu at feddyg ymgynghorol ENT (clust, trwyn a'r geg).
Efallai eich bod wedi cael holiadur tinitws i'w gwblhau cyn dod i'ch apwyntiad yn yr adran Awdioleg. Os nad ydych wedi cael holiadur, neu eich bod wedi ei golli, gallwch gael copi arall, a'i argraffu yma. Nid oes trefniadau dilysu i’r holidaur yn y Gymraeg.