Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn cynnig gwasanaeth cwsg i gleifion sy’n cael symptomau o apnoea cwsg ataliol. Bydd y wybodaeth ganlynol o gymorth i chi tra byddwch yn ymgymryd â diagnosis ac/neu driniaeth ar gyfer apnoea cwsg.
Os nad ydych chi’n cael triniaeth ar gyfer apnoea cwsg ar hyn o bryd ond credwch y gallai fod gennych rai o’r nodweddion/symptomau hyn neu bob un ohonynt, ewch i weld eich meddyg teulu a fydd yn cynnal asesiad cychwynnol.
Yn ogystal â’r arweiniad a roddir isod, edrychwch ar y dolenni cyswllt ar waelod y dudalen i gael rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt.
Apnoea Cwsg Ataliol / Syndrom Hypopnoea (OSAHS) yw cyflwr lle mae’r llwybrau anadlu uchaf yn cwympo dros dro ac yn fynych wrth gysgu. Gall hyn amrywio rhwng apnoea (dim llif awyr trwy’r llwybrau anadlu) a hypopnoea (gostyngiad yn y llif awyr trwy’r llwybrau anadlu).
Pan fyddwch yn mynd i gysgu, bydd y feinwe feddal o gwmpas eich gwddf yn llacio; mae hyn yn achosi i’r llwybrau anadlu gulhau ac yn y pen draw, gall arwain at y llwybr anadlu’n cwympo. Er mwyn goresgyn hyn, byddwch yn gwneud mwy o ymdrech i anadlu a bydd hyn yn arwain at ddeffro o gwsg dwfn i fethu cysgu neu gyfnod cysgu ysgafnach i alluogi i anadlu arferol ailddechrau. Gall hyn ddigwydd sawl gwaith ar hyd y nos ac arwain at gwsg o ansawdd gwael oherwydd ni fyddwch yn cyrraedd cyfnod cysgu dwfn ac adfywiol.
Peiriant o’r enw CPAP a ddefnyddir amlaf i drin OSAHS. Dyma’r driniaeth ddethol yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE).
Yn gryno, CPAP yw'r peiriant sy'n rhoi aer o dan bwysau drwy'r llwybrau anadlu. Mae'r ddyfais yn addasu'n awtomatig, bydd y pwysau yn cynyddu ac yn gostwng drwy gydol y nos i atal y llwybrau anadlu rhag methu. Efallai y byddwch yn sylwi ar y pwysau'n cynyddu ar gyfnodau penodol yn y nos, mae hyn yn gwbl normal.
Nid yw CPAP yn cael gwared ar OSAHS, ond y mae’n driniaeth ar ei gyfer: Os ydych chi’n cydymffurfio â’r driniaeth ac yn ei defnyddio bob nos, mae’n debygol iawn y bydd eich symptomau’n diflannu. Os na ddefnyddiwch y CPAP neu os byddwch yn methu â’i ddefnyddio am rai nosweithiau, byddwch yn dychwelyd i gael y symptomau sy’n gysylltiedig ag OSAH.
Dogfennau a dolenni defnyddiol:
Gwefan Ymddiriedolaeth Apnoea Cwsg
Gwybodaeth am Apnoea cwsg o wefan y GIG
Canllaw i gael noson dda o gwsg
OSAH- Taflenni i Gleifion
Canllawiau NICE ar gyfer CPAP
Rhestr chwarae fideo ResMed
Fideo beth yw myAir
Fideo ffitio eich masg F20
Fideo ffitio eich masg N20