Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Pontio

Prosiect 100 Stori

Mae Prosiect 100 Stori Gogledd Cymru yn ymwneud â gweithio gyda phobl ar draws gwahanol wasanaethau, i ddeall eu profiadau a'u straeon. Bydd hyn yn ein helpu i wneud newid gwirioneddol, hirdymor.

Beth yw pwrpas y prosiect hwn?

Mae'r prosiect eisiau deall yn well beth sy'n digwydd pan fydd pobl ifanc sy'n ymwneud â Gwasanaethau Anabledd Dysgu, Niwroddatblygiad neu CAMHS yn symud i wasanaethau oedolion.

Weithiau mae hyn yn cael ei alw’n ‘bontio.’

Rydym ni eisiau deall hyn trwy weithio gyda phobl sydd â phrofiad bywyd go iawn.

Pwy all gofrestru?

Unrhyw oedolyn dros 18 oed sydd â phrofiad o wasanaethau Anabledd Dysgu, Niwroddatblygiad neu CAMHS (Iechyd Meddwl Plant) ac sy’n byw yng Ngogledd Cymru.

Gallech chi fod yn glaf, yn gyn-glaf, yn rhiant neu’n ofalwr, yn frawd neu’n chwaer neu’n weithiwr proffesiynol.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

  • Dysgu sgiliau newydd mewn arweinyddiaeth
  • Rhannu eich meddyliau, eich profiadau a’ch barn ag eraill.
  •  Creu stori o’ch profiad chi a’i hadrodd mewn ffordd sy’n gyfforddus i chi.
  • Gweithio gydag eraill i gynllunio sut y gallwn ni wella gwasanaethau i bobl ifanc ac oedolion.

Pryd fydd hyn yn digwydd?

Byddwn yn cynnal digwyddiadau ‘croeso’ ar-lein ym mis Awst 2023.

Byddwn yn dechrau gweithio yn ein grwpiau ‘wyneb yn wyneb’ o fis Medi 2023.

Bydd 6 i 9 sesiwn dros 6 mis.  Bydd angen i chi fod yn rhydd i gymryd rhan ym mhob sesiwn.

Mwy o wybodaeth:

Christy.Hoskings@Wales.nhs.uk / 07813 720 568 Christy

Eirian.wynne2@wales.nhs.uk / 07581 037 079 Eirian