Neidio i'r prif gynnwy

Ynys Mon

Mae’r Tîm Integredig ar gyfer Plant Anabl yn Wasanaeth Arbenigol i Blant. Maen nhw'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 0 - 18 oed ym Môn. Mae'n darparu cymorth arbenigol ar gyfer y canlynol:

  • plant ag oedi neu anhwylder datblygiadol
  • plant ag anabledd dysgu
  • plant anabl
  • plant â salwch
  • plant ag anableddau corfforol sylweddol
  • plant â namau synhwyraidd sylweddol

Mae Gwasanaethau Arbenigol Plant yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn.

Mae Gwasanaethau Arbenigol Plant yn gweithio gyda phlant anabl sydd ag: -

  • Anabledd, oedi datblygiadol sylweddol neu anabledd dysgu lle nad yw gwasanaethau prif ffrwd yn gallu diwallu eu hanghenion arbenigol

Gall y Gwasanaeth Arbenigol Plant gynnig -

  • un pwynt cyswllt ar gyfer y Tîm
  • cyngor a gwybodaeth
  • asesiad cychwynnol gan Swyddog ar Ddyletswydd
  • mewnbwn proffesiynol i ddiwallu anghenion y plentyn
  • adolygiadau aml-asiantaeth o anghenion y plentyn
  • hawl i asesiad o anghenion y gofalwr
  • seibiannau byr.

Pwy all gyfeirio plentyn at y Gwasanaeth Plant Arbenigol?

  • y plentyn neu'r unigolyn ifanc
  • rhiant / gofalwr:
  • gweithwyr proffesiynol (gyda chaniatâd y teulu) 

Mae’r Tîm Integredig yn cynnwys Swyddog Gofal Cwsmer ar Ddyletswydd, Nyrsys Plant Cymunedol (Anableddau Dysgu), Seicolegwyr Clinigol, Gweithwyr Cymdeithasol, Gwasanaethau Cymorth, Cydgysylltydd Pontio a Therapydd Galwedigaethol (Addasiadau)

Nod y Tîm 

Mae'r nyrsys a'r cynorthwywyr nyrsio yn gweithio mewn partneriaeth â'r rhieni a'r gofalwyr, aelodau eraill o'r tîm, gweithwyr iechyd proffesiynol, gwasanaethau cymdeithasol, yr awdurdod addysg ac asiantaethau gwirfoddol perthnasol i helpu'r plentyn i ddatblygu ei lawn botensial.

Darperir y gwasanaeth o fewn amgylchedd y plentyn, e.e. o fewn y cartref, cylch chwarae, ysgol, cyfleusterau hamdden, mewn canolfannau Gwasanaethau Arbenigol Plant ac adeiladau iechyd eraill.

Cymhwyster:

  • Plant o'u genedigaeth hyd at 18 oed.
  • Plant sydd â 2 neu fwy o enghreifftiau o oedi difrifol yn eu datblygiad. Rhaid i un ohonynt fod yn wybyddiaeth (cyn oed ysgol)
  • Plant ag anabledd dysgu (oed ysgol +)

Y broses gyfeirio:

Yn dilyn asesiad a thrafodaethau pellach, rydym yn gallu cynnig rhaglenni a Chynlluniau Gofal wedi’u teilwra’n unigol i gynorthwyo datblygiad y Plentyn neu’r Unigolyn Ifanc mewn amryw o feysydd megis: Chwarae a Datblygiad, Sgiliau Hunangymorth megis Mynd i'r Toiled, Ymolchi, Gwisgo a Bwydo, Anawsterau Amser Gwely/Cysgu, Materion Ymddygiad, a chyffredinoli’r sgiliau hyn i bob lleoliad fel y bo’n briodol. Rydym hefyd yn cynnig Gweithdai a Gweithgareddau Grŵp priodol.

Ein nod yw grymuso Pobl Ifanc, a'u Teuluoedd/Gofalwyr i ddatblygu a chynnal sgiliau newydd a sgiliau sy’n datblygu drwy ddarparu'r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i ddysgu a chynnal y sgiliau hyn. Byddwn yn darparu gwybodaeth ysgrifenedig ar ffurf Rhaglenni a Chynlluniau Gofal i'r unigolion dan sylw eu dilyn. Byddwn hefyd yn eu cefnogi drwy'r broses.

Er mwyn cyfeirio at y tîm

Gwasanaethau Arbenigol Plant Ynys Môn – Nyrsys Anabledd Dysgu – trwy Wasanaethau “Teulu Môn”.

Teulu Môn

Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn        
LL77 7TW

Ffôn: Gwasanaethau Arbenigol Plant 01248 752984 neu Dîm Teulu Môn  01248 725 888

E-bost: teulumon@ynysmon.llyw.cymru