Neidio i'r prif gynnwy

Wrecsam

Nod tîm Datblygiad Plant ac Anableddau Dysgu Wrecsam yw gwneud yn siŵr bod gan bob plentyn sy'n bodloni ein meini prawf yr hawl i batrwm bywyd arferol yn y gymuned, i gael ei drin fel unigolyn, gyda mynediad at arbenigwr ychwanegol i helpu i sicrhau'r iechyd a'r datblygiad mwyaf posibl.

Mae'r tîm wedi'i rannu'n ddau, y tîm datblygiad cyn ysgol a'r tîm anabledd dysgu i blant oed ysgol. Mae’r tîm yn cynnwys nyrsys cymunedol, nyrsys meithrin arbenigol, seicolegwyr clinigol a gweinyddwyr sy'n gweithio’n bennaf gyda theuluoedd ac yn cydgysylltu ag ysgolion, meddygon teulu, therapyddion iaith a lleferydd gwasanaethau cymdeithasol, pediatregwyr a llawer mwy.

Cymhwysedd i blant cyn oed ysgol:

Plant 0-5 oed sy’n dangos oedi datblygiadol sylweddol mewn mwy na 2 faes a/neu anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu neu bryderon ynghylch ASD posibl (anhwylder sbectrwm awtistig).

Cymhwysedd i blant oed ysgol

Plant 5-18 oed sydd ag anabledd dysgu (oedi datblygiadol byd-eang sylweddol) ac anghenion iechyd cysylltiedig.

Proses gyfeirio (Wrecsam): Cwblhau cyfeiriad MAP (panel amlasiantaethol) gyda llofnod/caniatâd y rhiant. Gall gweithwyr proffesiynol neu rieni gyfeirio. Os bydd y cyfeiriad yn cael ei dderbyn, fe fyddwch yn cael eich rhoi ar restr aros am CAPA (apwyntiad dewis a phartneriaeth) er mwyn i ni ddarganfod mwy am anghenion eich plentyn. Unwaith y bydd gweithiwr allweddol wedi’i benodi, gallwn gynnig cyngor ac arweiniad am y meysydd angen e.e. ymyriadau ymddygiadol, datblygu hylendid cysgu da, canllawiau ar gyfer hyfforddiant toiled ac ati. Mae ymyriadau yn seiliedig ar ganlyniad yr apwyntiad CAPA yn cael eu teilwra i anghenion pob plentyn a’i deulu. Gallwn hefyd gyfeirio at wahanol weithwyr proffesiynol am gymorth arbenigol pellach os oes angen.

Manylion cyswllt -

Gwasanaeth Datblygiad Plant ac Anabledd Dysgu (Tîm Datblygiad Cyn Ysgol a Thîm Plant Oed Ysgol)

 Canolfan Iechyd Plant Wrecsam, Ysbyty Maelor Wrecsam, Wrecsam,

 LL13 7TD

Ffôn:- 03000 848300 Gweinyddwr y tîm cyn ysgol

        03000 848301 Gweinyddwr y tîm oed ysgol