Neidio i'r prif gynnwy

Sir y Fflint

Tîm Datblygiad Cyn Ysgol Sir y Fflint

Beth yw asesiad cychwynnol?

Pan fydd plant yn cael eu cyfeirio at y Tîm Datblygiad Cyn Ysgol, byddwn yn trefnu i gwrdd â chi yn y clinig i gael mwy o wybodaeth am eich pryderon am ddatblygiad eich plentyn.

 Bydd dau aelod o'r Tîm Datblygiad Cyn Ysgol yn bresennol yn yr asesiad. Bydd un aelod yn treulio amser yn siarad â chi, a'r llall yn treulio amser yn chwarae gyda'ch plentyn. Bydd yr asesiad fel arfer yn para tua awr. Nid oes rhaid i chi ddod ag unrhyw beth gyda chi. Ond, os oes gennych chi bryderon am agwedd benodol ar ddatblygiad eich plentyn, efallai y byddwch am ddod â dogfennau perthnasol. Gall y rhain gynnwys eich llyfr coch, dyddiadur am ymddygiad eich plentyn, dyddiadur cwsg neu fwyd, adroddiadau gan y feithrinfa neu'r ysgol, neu unrhyw beth arall a allai, yn eich barn chi, fod yn ddefnyddiol.

Mae holl staff y tîm yn sicrhau bod gan bob plentyn ag oedi datblygiadol yr hawl i'r canlynol:

  • Cael ei drin fel unigolyn
  • Meddu ar batrymau bywyd arferol mewn amgylcheddau teuluol a chymunedol
  • Cael cymorth arbenigol ychwanegol, i sicrhau'r iechyd a'r datblygiad mwyaf posibl

Rydym yn darparu cymorth a chyngor i rieni plant cyn oed ysgol, rhwng 0 a 5 oed sydd ag oedi datblygiadol mewn dau neu fwy o’r meysydd canlynol:

  • Corfforol
  • Gwybyddol (dysgu)
  • Cyfathrebu
  • Perthnasoedd cymdeithasol

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol eraill. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Pediatregydd Cymunedol
  • Therapi Iaith a Lleferydd
  • Ffisiotherapi
  • Therapi Galwedigaethol
  • Gweithwyr Cymdeithasol

Rydym yn darparu'r ystod ganlynol o wasanaethau:

  • Cyngor ac ymgynghoriaeth ar sgiliau a datblygiad
  • Asesiad ac ymyrraeth ddatblygiadol
  • Cyswllt ag addysg a lleoliadau cyn ysgol
  • Cyswllt â Gwasanaethau Gofal Iechyd eraill
  • Addysgu a hyfforddiant datblygu gwasanaeth,

Pwy sy'n gweithio yn y Tîm Datblygiad Cyn Ysgol -

Gweinyddwr - Byddwch yn derbyn llythyrau neu'n siarad â rhywun ar y ffôn. Mae'r gweinyddwr yn trefnu'r tîm ac yn pasio negeseuon i'r gweithiwr proffesiynol perthnasol

Nyrsys Cymunedol – Mae ganddyn nhw wybodaeth arbenigol am ddatblygiad, chwarae, cyfathrebu cymdeithasol a chyflyrau datblygiadol plant

Nyrs Niwroddatblygiadol – Gwybodaeth arbenigol am anawsterau Niwroddatblygiadol – Yn gweithio yn y tîm asesu awtistiaeth dan 5 oed

Gweithwyr cymorth – Maen nhw’n fedrus wrth ddatblygu chwarae plant, cynnal a modelu ymyriadau chwarae.

Seicolegydd Clinigol - Mae ganddynt wybodaeth arbenigol am ddatblygiad plant, cyflyrau datblygiadol, anghenion emosiynol plant a theuluoedd, a magu plant.

 

Cysylltu â ni

Tîm Datblygiad Cyn Ysgol

Tŷ Catherine Gladstone

Ffordd Penarlâg

Mancot

Glannau Dyfrdwy

Sir y Fflint CH5 2EP                                     
fôn: 03000 852281

Gwasanaeth i blant oed ysgol (Sir y Fflint)

Mae'r pedwar Nyrs Gymunedol yn nyrsys cymwys sydd wedi arbenigo mewn gweithio gyda phlant ag anabledd dysgu. Mae'r nyrsys yn gweithio gyda phlant ag anabledd dysgu a'u teuluoedd/gofalwyr. Mae graddau'r anabledd yn amrywio rhwng pob plentyn a gall fod yn ysgafn, yn gymedrol neu'n ddwys. Mae’r nyrsys cymunedol yn gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill fel Athrawon, Gofal Seibiant/Cyswllt Teulu, Cynorthwywyr Dosbarth, Meddygon Teulu, Nyrsys Ysgol, Pediatregwyr Cymunedol, Ffisiotherapyddion, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Seicolegwyr a llawer mwy … lle bynnag bo’r angen.

Sut mae cysylltu â Nyrs Gymunedol?

Mae’n rhaid i rywun (e.e. ysgol/rhiant/gweithiwr proffesiynol arall) nodi’r maes angen, er enghraifft:

Mae Mam angen cymorth ynglŷn ag ymddygiad ei mab gan ei fod yn brathu ei hun

NEU

Byddai Mrs Jones yn hoffi cyngor am epilepsi ei merch

Beth yw'r broses gyfeirio?

Gall plant gael eu cyfeirio at y Tîm Datblygiad Cyn Ysgol gan weithiwr iechyd proffesiynol, fel ymwelydd iechyd a Phediatregwyr Cymunedol neu Athrawon. Ond, mae'n rhaid bod Pediatregydd Cymunedol wedi gweld y plentyn yn ystod y chwe mis blaenorol. Bydd y gwasanaeth yn cysylltu â rhieni unwaith y bydd y cyfeiriad wedi’i dderbyn a byddwn yn trefnu i gwrdd â chi yn y clinig i gael mwy o wybodaeth am eich pryderon ynglŷn â datblygiad eich plentyn.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae'r tîm i blant oed ysgol yn cyfarfod bob pythefnos. Mae pob cyfeiriad newydd yn cael ei drafod i benderfynu ai ein gwasanaeth ni yw'r un priodol. Os yw'r cyfeiriad yn bodloni'r meini prawf, yna cynigir apwyntiad cychwynnol trwy lythyr yn gwahodd rhieni i wneud apwyntiad gyda'r tîm.

Yn ystod yr apwyntiad hwn, bydd y nyrsys a'r rhieni yn trafod unrhyw faterion ac yn blaenoriaethu'r prif faes angen. Bydd cynllun gweithredu yn cael ei lunio neu fe wneir penderfyniad i gyfeirio at wasanaeth mwy priodol.

Mae ffordd o weithio’r tîm i blant oed ysgol yn seiliedig ar y ‘Dull Dewis a Phartneriaeth’ (CAPA) sy’n anelu at y canlynol:

  • Gosod nodau realistig
  • Helpu i roi'r cynllun gweithredu ar waith
  • Cynnwys gwasanaethau eraill os yw'n briodol
  • Gweithio o fewn amserlen y cytunwyd arni ar ddarnau o waith â ffocws
  • Adolygu'r cynllun gweithredu yn rheolaidd hyd at ryddhau

Nod defnyddio'r dull CAPA yw:

  • ymateb i gyfeiriadau yn gyflymach
  • lleihau amseroedd rhestrau aros
  • creu mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith  effeithlon â ffocws mewn partneriaeth â theuluoedd neu ofalwyr

Beth yw rôl y nyrs?

  • Anelu at hyrwyddo bywyd iachach, gwerthfawr a mwy boddhaus i'r plentyn, y teulu a'r gofalwyr
  • Ceisio lleihau effaith anabledd y plentyn trwy ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth
  • Gwella dealltwriaeth o anghenion penodol unigolyn
  • Cefnogi’r plentyn a’r teulu i’w galluogi i ddilyn patrymau bywyd arferol, gan gael mynediad i ystod lawn o weithgareddau gan ddefnyddio cyfleusterau arferol
  • Annog defnyddio gwasanaethau iechyd sylfaenol
  • Addasu’r rôl i fodloni anghenion newidiol plentyn mewn teulu yn ystod y trawsnewidiadau a brofir wrth dyfu
  • Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill
  • Cefnogi’r plentyn a’r teulu i ddatblygu galluoedd ac annibyniaeth, a gwella a chynnal sgiliau’r plentyn

Manylion cyswllt

Gwasanaeth Datblygiad Plant ac Anabledd Dysgu (Tîm Datblygiad Cyn Ysgol a Thîm i  Blant Oed Ysgol),

Canolfan Plant Sir y Fflint, Tŷ Catherine Gladstone,

Mancot, Sir y Fflint CH5 2EP            

Ffôn: 03000 859198