Neidio i'r prif gynnwy

Magu Plant

Adnoddau Magu Plant

Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, mae pethau’n anoddach nag erioedd i rieni a darparwyr gofal. Mae’r wefan Magu Plant Rhowch amser iddo yn rhoi awgrymiadau ymarferol, cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am ddim. Fe’i datblygwyd gan weithwyr proffesiynol magu plant yng Nghymru i rieni yn ogystal ag i ymarferwyr magu plant i’w defnyddio i gefnogi rhieni.  

Mae sut rydych yn bwydo eich babi yn un o’r penderfyniadau pwysicaf y byddwch yn ei wneud fel rhiant newydd. Mae canllawiau defnyddiol ar fwydo ar y fron ac adnoddau i gefnogi eich penderfyniadau ar gael ar ein gwefan.

Gallwch gael mynediad am ddim at gyfres o gyrsiau’r GIG ar-lein sydd wedi’u cynllunio i helpu rhieni i ddeall cerrig milltir datblygiadol ac emosiynol eu plant, gan roi sylw i bopeth o’r cyfnod cyn-geni i ddiwedd yr arddegau. 

Mae aros yn ddigynnwrf a gallu tawelu eich babi sy’n crio yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae arweiniad ac adnoddau gan yr NCPCC ar ein gwefan i’ch helpu i dawelu a chysuro eich babi.