Trosolwg rhaglen ein cwrs 6 wythnos - rheoli poen cronig.
Darllen oedd ein prif ganolbwynt yn ystod y sesiwn hon: Living a Healthy Life with Chronic Pain, 2il argraffiad; Penodau 1 a 2, Pennod 4, tudalennau 56-57, 69-74; a Phennod 5, tudalennau 100-101.
Cadwch eich dyddiadur poen gan nodi 2-3 peth a ffyrnigodd y poenau’r wythnos hon er mwyn rhannu'r hyn yr ydych yn ei ddysgu’r wythnos nesaf.
Ymarfer defnyddio dulliau gwrthdynnu.
Darllen oedd ein prif ganolbwynt yn ystod y sesiwn hon: Living a Healthy Life with Chronic Pain: Pennod 2, tudalennau 29-31; Pennod 6 ac 8.
Cadwch eich dyddiadur poen, gan nodi a ydych yn cydbwyso gweithgaredd gyda gorffwys.
Ceisiwch ymarfer yr MEP neu wneud math arall o weithgarwch corfforol neu ymarfer.
Darllen oedd ein prif ganolbwynt yn ystod y sesiwn hon: Living a Healthy Life with Chronic Pain: Pennod 4, tudalennau 81-91; Pennod 5, tudalennau 102-107; Penodau 7 a 9.
Cadwch eich dyddiadur poen gan nodi pa ymddygiad, emosiynau a bwydydd yr ydych yn eu teimlo/bwyta cyn i chi gael poen a’r hyn sy’n digwydd ar ôl i chi gael y poen.
Ceisiwch fonitro dwysedd eich gweithgarwch corfforol, gan gadw dyddiadur diolchgarwch, neu ysgrifennu am eich emosiynau a’ch meddyliau anodd.
Dewch â label fwyd o fwyd yr ydych yn ei fwyta ar gyfer y gweithdy yr wythnos nesaf.
Darllen oedd ein prif ganolbwynt yn ystod y sesiwn hon: Living a Healthy Life with Chronic Pain: Pennod 4, tudalennau 74-80; Pennod 8, tudalennau 173-189; Pennod 9 a 11.
Cadwch eich dyddiadur poen, gan nodi eich ymddygiad a’ch emosiynau.
Ceisiwch ymarfer yr MEP neu wneud math arall o weithgarwch corfforol neu ymarfer corff.
Cadwch olwg ar yr hyn yr ydych ei fwyta am un diwrnod yn ystod yr wythnos ac un diwrnod ar y penwythnos, gan edrych ar
faint a beth yr ydych ei fwyta ac a yw'n effeithio ar eich poen.
Meddyliwch am benderfyniad gwirioneddol yr hoffech ei wneud, neu y mae angen i chi ei wneud, er mwyn i chi allu defnyddio hwn
yn ein gweithgaredd gwneud penderfyniadau’r wythnos nesaf.
Darllen oedd ein prif ganolbwynt yn ystod y sesiwn hon: Living a Healthy Life with Chronic Pain: Pennod 2, tudalennau 31-33; Pennod 3, tudalennau 49-51; Pennod 5, 95-102; Pennod 14 ac 15.
Cadwch eich dyddiadur poen, gan nodi eich ymddygiad a’ch emosiynau.
Gwnewch restr feddyginiaeth bersonol, gydag enwau eich holl feddyginiaeth, y darparwr, dos, dyddiadau dechrau, y rheswm dros eu cymryd, ac unrhyw alergedd i gyffuriau.
Cysylltwch â'n tîm hunanofal i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau iechyd a lles, gan gynnwys sut i archebu eich lle.