Neidio i'r prif gynnwy

Macmillan

Mae Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw neu ACP yn cael ei ddiffinio fel proses o drafodaeth wirfoddol rhwng unigolyn a’u darparwyr gofal. Mae i wneud dymuniadau unigolyn yn glir gan ragweld unrhyw ddirywiad yng nghyflwr yr unigolyn yn y dyfodol, gan golli'r gallu i wneud penderfyniadau a / neu'r gallu i gyfleu dymuniadau i eraill. 

Cynllun Gofal Ymlaen Llaw (ACO) yw cofnod a gedwir gan y claf sy’n cofnodi dymuniadau a dewisiadau’r claf ar gyfer gofal yn y dyfodol. Mae'r ddogfen ACP yn arbennig o berthnasol os yw dilyniant clefyd yn debygol o arwain at sefyllfa pan nad yw’r claf yn gallu mynegi ei ddymuniadau a'i dewisiadau drosto’i hun.

 Mae cwblhau ACP fel arfer ond nid o reidrwydd yn ganlyniad trafodaethau strwythuredig rhwng unigolion a'u darparwyr gofal, gall gynnwys trafodaeth gyda'r rhai sy'n bwysig i'r claf neu beidio. Gyda chaniatâd y claf, dylai'r ACP fod ar gael i weithwyr proffesiynol gofal iechyd allweddol edrych arno, fodd bynnag, efallai nad dyna ddymuniad y claf bob amser. Dylai bodolaeth a lleoliad yr ACP fod yn hysbys gan o leiaf un unigolyn heblaw'r claf.

Unwaith mae wedi’i gwblhau, dylid adolygu’r ACP yn rheolaidd a dylid rhannu unrhyw newidiadau i’r ACP gyda unigolion perthnasol eraill. Gall hyn fod yn aelodau o deulu’r claf, Meddyg Teulu neu ddarparwr gofal iechyd.

Gyda chefnogaeth Cymorth Canser Macmillan, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dechrau ar brosiect tair blynedd i annog cynllunio gofal ymlaen llaw ar draws lleoliadau gofal Gogledd Cymru. Amcan olaf y prosiect yw gweld trafodaethau cynllunio gofal ymlaen llaw yn cael eu hymgorffori i arferion arferol yn enwedig ar gyfer pobl sy’n wynebu clefyd sy’n cyfyngu ar fywyd neu glefyd cronig.

Mae yna nifer o wahanol dempledi ACP ar gael yn eang ar y we. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae ACP claf wedi’i ddatblygu, ei brofi a’i gymeradwyo ar gyfer defnydd Gogledd Cymru. Mae ‘Fy Iechyd, Fy Ngofal, Fy Mhenderfyniadau’ yn ddogfen fawr ond cynhwysfawr sy’n cynnwys pum rhan a chanllaw ar gyfer hwyluswyr ACP. Gellir cwblhau’r ddogfen mewn pump cam, gan fynd i’r afael â phob rhan fel rhan unigol neu fe ellir ei chwblhau’n llawn yn dibynnu ar ddymuniadau’r unigolyn dan sylw.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Rosalynde.johnstone@wales.nhs.uk Rheolwr Prosiect ACP Macmillan BIPBC.

 

Fy Iechyd

Fy Ngofal

Fy Mhenderfyniadau

Fy Mywyd

Fy Ngwerthoedd

Fy Ngofal yn y Dyfodol

 

Gweler y dogfennau isod:

Llyfryn Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw

Arweiniad Hwyluswyr Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw (ACP)