Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gael gafael ar gymorth

Os ydych yn wynebu argyfwng a bod angen cymorth brys arnoch, ewch i'n tudalen ar gael cymorth mewn argyfwng iechyd meddwl.  

Mae eich iechyd meddwl yn dylanwadu ar sut rydych yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Mae hefyd yn effeithio ar eich gallu i ymdopi â straen, goresgyn heriau, meithrin perthnasau, a gwella o lesteiriau bywyd.

Ble i ddechrau arni

Pan fyddwch yn meddwl am droi at wasanaethau iechyd meddwl i ddechrau, fe all eich digaloni. At bwy ydych yn mynd i ddechrau? Beth fyddant yn ei wneud? Faint o reolaeth fydd gennych? A fydd yn gweithio? Rydych yn gwybod ble rydych eisiau cyrraedd - teimlo'n dda - ond nid ydych yn gwybod sut i gyrraedd yno. 

Ble nesaf?

Gall anghenion cymorth iechyd meddwl nifer o bobl gael eu bodloni drwy eu meddygfa, Hwb Cymunedol FEDRA' I, grŵp hunangymorth neu Wasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol. Ond efallai y bydd angen cymorth pellach ar rai pobl. Efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio at Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol.

Os ydych yn cael eich cyfeirio at Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol, nid yw hyn yn golygu bod eich problemau'n waeth na phroblemau pobl eraill, neu y byddwch yn cymryd mwy o amser i wella. Mae'n golygu y gallai fod angen cymorth mwy arbenigol arnoch i gefnogi eich adferiad.

North Wales Space

Mae 'North Wales Space' yn gymuned ar-lein sy'n cynnig cymorth gan gymheiriaid ac sy'n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i bobl siarad yn agored am iechyd meddwl, cysylltu ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg a derbyn gwybodaeth ddefnyddiol am wasanaethau sydd ar gael ar draws y rhanbarth.

Fe'i hariennir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae'n rhan o lwyfan ar-lein Clic a sefydlwyd gan Hafal yn 2016 er mwyn rhoi cymorth gwell i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a'u gofalwyr yng Nghymru.

Ewch i wefan North Wales Space am ragor o wybodaeth.