Mae triniaeth ar gyfer iselder fel arfer yn golygu cyfuniad o hunangymorth, therapïau siarad (megis cwnsela neu therapi ymddygiad gwybyddol) a meddyginiaeth.
Mae pawb yn wahanol, felly efallai na fydd triniaethau a all weithio i rai pobl yn gweithio i eraill. Bydd eich meddyg yn eich helpu chi i archwilio beth sydd orau i chi. Fe allech gael cynnig cyfeiriad at y tîm iechyd meddwl amenedigol all ddarparu monitro ychwanegol a chymorth yn ystod ac ar ôl eich beichiogrwydd.
Eich penderfyniad chi fydd y driniaeth y byddwch yn ei chael. Gall eich gweithiwr iechyd proffesiynol eich helpu drwy siarad â chi am yr hyn yr hoffech ei wneud ac egluro’r peryglon a’r manteision o bob opsiwn.
Gall iselder wneud i chi fod eisiau cuddio rhag y byd ac fe allech deimlo fel nad ydych eisiau gwneud dim byd, ond mae hi’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn gofalu amdanoch eich hunan. Dechreuwch gyda gweithgareddau bychain, gwnewch bethau yn eich amser eich hun ac, yn fwyaf pwysig, gofynnwch am gymorth os bydd angen.
Dyma rai syniadau a allai helpu: