Mae seicosis ôl-enedigol yn fath difrifol o salwch meddwl y gellir ei drin, sy'n digwydd yn ystod y dyddiau a'r wythnosau cyntaf ar ôl cael babi. Gall waethygu’n gyflym a dylid ei drin bob amser fel argyfwng meddygol gydag asesiad a thriniaeth amserol. Er ei fod yn brin, bydd tua 1-2 o bob 1000 o fenywod yn datblygu seicosis ôl-enedigol a gall ddigwydd i fenywod heb unrhyw hanes o broblemau iechyd meddwl. Mae menywod sydd wedi cael diagnosis o anhwylder deubegynol neu sydd wedi dioddef â seicosis yn y gorffennol yn fwy tebygol o ddatblygu seicosis ôl-enedigol.
Arwyddion o seicosis ôl-enedigol
- Rhithbrofiadau – efallai y byddwch yn clywed, gweld, teimlo ac yn arogli pethau yn wahanol i bobl eraill
- Lledrithiau - efallai y bydd gennych gredoau cryf newydd nad yw pobl eraill yn eu rhannu
- Dryswch – efallai y bydd eich meddyliau bob amser yn gwibio
- Gwadu - efallai na fyddwch yn cydnabod eich bod yn sâl
- Ddim angen cymaint o gwsg - efallai y byddwch yn profi lefelau uwch o egni
Triniaeth ar gyfer seicosis ôl-enedigol
- Derbyn cymorth ac asesiad brys - fel arfer bydd hyn yn digwydd trwy eich Adran Achosion Brys lleol.
- Cael eich cyfeirio at y tîm Iechyd Meddwl Ôl-enedigol am gefnogaeth barhaus – fel arfer trwy’r gweithiwr proffesiynol a gwblhaodd yr asesiad cychwynnol.
- Meddyginiaeth – Byddai hyn yn dibynnu ar y symptomau rydych yn eu profi.
- Triniaeth yn yr ysbyty neu mewn Uned Mamau a Babanod – Mae’r Uned Mamau a Babanod yn uned seiciatrig arbenigol lle gall mamau ag afiechyd meddwl fynd gyda'u babanod i dderbyn triniaeth arbenigol tra'n cryfhau eu perthynas gyda’r babi.
- Therapi electrogynhyrfol - Os oes gennych symptomau difrifol o seicosis ôl-enedigol dros gyfnod hir o amser sydd ddim yn gwella er gwaethaf y feddyginiaeth, efallai y bydd therapi electrogynhyrfol (ECT) yn cael ei argymell.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am seicosis ôl-enedigol ar wefan Action on Postpartum Psychosis.