Neidio i'r prif gynnwy

Pethau eraill i'w hystyried

Cadw mewn cysylltiad

Ar adegau sy’n achosi straen, mae’n bwysig cadw mewn cysylltiad a manteisio ar eich rhwydwaith cynnal – gallai hyn olygu eich teulu, eich ffrindiau, eich cymdogion, eich cyd-weithwyr neu eich cymuned ehangach.

Mae tudalen we Cadw mewn cysylltiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu awgrymiadau defnyddiol ar gyfer sut mae cadw mewn cysylltiad, hyd yn oed os ydych chi’n gorfod hunanynysu.

Cymorth i bobl agored i niwed

Mae canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru wedi codi rhai o gyfyngiadau COVID 19 ar ein bywydau a gellir eu cyrchu yn https://llyw.cymru/llythyr-y-prif-swyddog-meddygol-i-bobl-agored-i-niwed-esboniad-or-cymorth?_ga=2.266931338.586068278.1588174045-365550822.1588174045

Sut galla’ i helpu pobl eraill?

Mae helpu pobl eraill yn gallu bod yn werth chweil, ac mae’n creu cysylltiadau â phobl eraill.

Neu fe allwch chi wirfoddoli i elusen leol sy’n ymateb i argyfwng y COVID-19. Beth am gysylltu â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) lle gallwch chi ddod o hyd i gyfleoedd yn eich ardal leol.

Ble i gael rhagor o wybodaeth:

I gael y canllawiau a’r cyngor diweddaraf:

I gael gwybodaeth am gam-drin domestig a thrais rhywiol:

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi a/neu eich plant mewn perygl, ffoniwch yr heddlu. Mae’r heddlu yn dal yn ymateb i alwadau brys. Os oes angen help tawel arnoch chi, ffoniwch 999, wedyn 55.

Yn ogystal â hynny, mae’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yma i’ch helpu ar 0808 80 10 800. Gallwch chi hefyd siarad â rhywun ar unrhyw adeg o’r dydd drwy eu gwasanaeth sgwrsio byw. Mae modd iddynt eich helpu drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg ac unrhyw iaith arall gan ddefnyddio LanguageLine, neu drwy eu gwasanaeth testun Type Talk ar 1800108088010800.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyngor a’r cymorth ariannol sydd ar gael:

Wrth reswm, gallech chi fod yn poeni am arian ar hyn o bryd. Mae nifer o wasanaethau ar gael i roi cymorth i chi

Ewch i dudalen Cymorth pellach a helpu eraill Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael amrywiaeth o ganllawiau defnyddiol, cyngor a dolenni i safleoedd allanol a fydd yn gallu rhoi cymorth i chi.