Neidio i'r prif gynnwy

111 Opsiwn 2 - Cymorth iechyd meddwl i bawb

Mae’n bwysig ein bod ni gyd yn gofalu am ein hiechyd meddwl a’n lles.

Felly, os oes angen i chi siarad â rhywun - neu os ydych yn poeni am rywun annwyl - ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2 i siarad ag aelod ymroddedig o’n tîm iechyd meddwl.

Rydyn ni yma 24 awr y dydd, saith niwrnod o’r wythnos – yn cynnig cymorth iechyd meddwl brys i bobl o bob oed ar draws Gogledd Cymru. Gellir ffonio o linell dir neu ffôn symudol yn rhad ac am ddim, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd yn weddill.

Ond mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol, ffoniwch 999 bob amser neu ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Gweler ein hyb iechyd meddwl am wybodaeth ac adnoddau cymorth amgen.