Mae beichiogrwydd a geni plant yn ddigwyddiadau sy’n newid bywydau menywod, rhieni a theuluoedd. Mae’n gyfnod newydd a chyffrous y mae pobl yn edrych ymlaen ato’n eiddgar.
Rydym ni yn paratoi i lansio holiaduron ar Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yn seiliedig ar Fesurau Profiadau a Adroddir gan Gleifion (PREMs) Cymru Gyfan drwy CIVICA, fel rhan o Ymrwymiadau Fframwaith Ymgysylltu Amenedigol Cymru Gyfan.
Mae 5 holiadur sy’n caniatáu i deuluoedd roi adborth am eu taith genedigaeth fel y gallwn ddysgu mwy am yr hyn sy’n mynd yn dda a lle gallwn wella.
Bydd yr holiaduron yn cael eu hanfon yn awtomatig drwy neges destun.
Defnyddir system Civica, sydd wedi’i rhaglennu i ddosbarthu dolenni holiaduron yn awtomatig i’r holl ddefnyddwyr gwasanaethau ar adegau allweddol, trwy gydol y cyfnod beichiogrwydd, ar ôl cael eu derbyn i uned newyddenedigol, ac yn ystod cyfnod cynnar magu plentyn.