Mae beichiogrwydd a genedigaeth yn ddigwyddiadau sy'n newid bywyd i fenywod, rhieni a theuluoedd. Mae'n adeg o ddechreuadau newydd, ac mae'n ddigwyddiad hynod arwyddocaol sydd yn aml yn hirddisgwyliedig. Mae Fframwaith Ymgysylltu Amenedigol Cymru Gyfan yn amlinellu'r safonau'n ymwneud ag ymgysylltu ystyrlon â defnyddwyr gwasanaeth ar draws yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru. Mae'n amlinellu deg ymrwymiad allweddol sy'n helpu i sicrhau bod modd gwrando ar bobl a theuluoedd, eu cynnwys, a'u cynorthwyo o ran llunio gwasanaethau amenedigol o ansawdd uchel.
Rydym yn paratoi i lansio holiaduron Mesur Profiadau a Adroddir gan Gleifion (PREMs) ym maes Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru Gyfan, fel rhan o Ymrwymiadau Fframwaith Ymgysylltu Amenedigol Cymru Gyfan.
Mae pum holiadur sy'n caniatáu i deuluoedd roi adborth ar eu taith beichiogrwydd, fel y gallwn ddysgu mwy am yr hyn sy'n mynd yn dda a ble y gallwn ni wella.
Mae camau 3, 4 a 5 yn weithredol bellach ac rydym wrthi'n lansio cam 1 a cham 2.
Caiff yr holiaduron eu dosbarthu'n awtomatig trwy neges destun.
Mae'r system Civica a gaiff ei defnyddio, wedi'i rhaglennu i ddosbarthu dolenni i'r holiaduron yn awtomatig ymysg yr holl ddefnyddwyr gwasanaeth ar adegau allweddol, trwy gydol beichiogrwydd, ar ôl derbyn i uned y newydd-anedig ac yn ystod y profiad cynnar o fod yn rhiant. Mae Civica ar gael yn yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru a chaiff ei chysylltu'n ddigidol â holl systemau gwybodaeth am famolaeth a'r newydd-anedig yn y bwrdd iechyd er mwyn ei dosbarthu ar adegau safonedig y cytunir arnynt. Mae dulliau llywodraethu a diogelu data ar waith i sicrhau na chaiff holiaduron eu dosbarthu'n amhriodol.