Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu am eich clwyf yn dilyn geni'ch babi drwy lawdriniaeth Caesaraidd

Mae llawdriniaeth Caesaraidd yn driniaeth i eni eich babi. Mae toriad sy'n ddigon mawr i'ch babi gael ei eni fel arfer yn cael ei wneud ar hyd llinell blew’r arffed (llinell bicini).

Gofalu am eich clwyf Caesaraidd

Mae’n bwysig eich bod yn ffit ac yn iach er mwyn i chi allu gofalu am eich babi. Bydd dilyn y cyngor isod yn lleihau’r tebygrwydd o ddatblygu haint ar ôl triniaeth Caesarian:

Cwsg

Mae cwsg o ansawdd da yn hanfodol ar ôl cael babi ac nid yw hyn bob amser yn hawdd. Mae angen cwsg arnom ni i gyd er mwyn i'r corff orffwys a thrwsio ei hun. Yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf, ceisiwch orffwys neu gysgu pan fydd eich babi yn cysgu.

Bwyta deiet cytbwys

Mae’n bwysig cynnwys bwydydd o’r grwpiau bwyd iach i gyd yn eich deiet, gan roi sylw arbennig i fwydydd sy’n cynnwys protein er mwyn annog twf y meinwe. Os ydych wedi cael presgripsiwn o atchwanegiadau haearn, dylech barhau i gymryd y rhain ac yfed digon trwy gydol y dydd.

Rheoli poen

Mae bod mewn poen yn gallu effeithio ar allu eich system imiwnedd i weithio’n dda – dyma’r rhan o’r corff sy’n ein helpu i frwydro yn erbyn heintiau. Dylech gymryd meddyginiaethau lleddfu poen sydd wedi'u rhagnodi gan eich gweithiwr iechyd proffesiynol, gan y gallai’r rhain eich helpu i wella.

Ysmygu

Mae ysmygu yn effeithio ar dwf meinwe a’r ffordd mae eich corff yn trwsio’n fewnol. Mae cyfraddau clwyfau heintus  yn uwch ymhlith menywod sy'n ysmygu. Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig cymorth un-i-un am ddim gan gynghorydd rhoi’r gorau i smygu personol bob wythnos.

Straen a phryder

Mae cael babi newydd yn gyfnod cyffrous ac yn gyfnod o newid mawr. Gall hefyd fod yn llawn straen wrth i chi addasu i fod yn fam. Gall diffyg cwsg, deiet gwael a phoen effeithio ar eich lefelau straen wrth i chi wella ar ôl triniaeth Caesaraidd. Derbyniwch bob help a chefnogaeth a gynigir gan eich teulu a'ch ffrindiau.

Hylendid a gofalu am y clwyf

Ar ôl cael triniaeth Caesaraidd, rhoddir rhwymyn dros y clwyf. Gellir tynnu hwn ar ôl i chi gael eich rhyddhau o'r ysbyty.

Sychwch yr ardal o gwmpas eich clwyf yn ofalus ar ôl i chi gael bath neu gawod. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw eich clwyf mewn plygiad dwfn yn y croen. Gwnewch yn siŵr nad yw eich dillad isaf yn rhwbio yn erbyn y clwyf nac yn ymyrryd â’r clwyf yn ddiangen. Gwisgwch ddillad llac, cyfforddus a dillad isaf cotwm.

Golchwch eich dwylo cyn ac ar ôl mynd i’r toiled bob tro a hefyd ar ôl newid clwt eich babi.

Symptomau ac arwyddion bod clwyf wedi’i heintio

Dyma’r arwyddion bod clwyf yn gwella’n iawn:

  • Ychydig  gochni o gwmpas y clwyf
  • O bosib bydd ardal y clwyf wedi chwyddo rhywfaint
  • Bydd ardal y clwyf yn dyner a phoenus
  • Gall y clwyf ollwng ychydig o hylif clir
  • Efallai bydd rhywfaint o ddiffyg teimlad fydd yn cilio’n raddol a gall gymryd hyd at 12 mis i'r teimlad ddychwelyd

Arwyddion posibl bod clwyf wedi’i heintio:

  • Cochni’n cynyddu o gwmpas y clwyf
  • Mwy o chwydd o gwmpas ardal y clwyf
  • Poen neu dynerwch cynyddol (yn enwedig wrth orffwys)
  • Mwy o hylif yn gollwng o'r clwyf a hwnnw’n newid lliw
  • Arogl drwg o'r hylif sy'n dod o'r clwyf
  • Tymheredd uchel
  • Teimlo'n sâl yn gyffredinol
  • Hylif annymunol yn gollwng o’r wain
  • Gwres uchel yn ardal y clwyf

Dylech gysylltu â'ch Bydwraig Gymunedol os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau.