Neidio i'r prif gynnwy

Ffactorau ffordd o fyw y dylid eu hystyried er mwyn gwella ffrwythlondeb yn gyffredinol

Os ydych chi'n ceisio dod yn feichiog, efallai eich bod yn meddwl am eich ffrwythlondeb a pha un ai a allwch wella hynny. Efallai bod rhai ffactorau na allwch eu rheoli megis anawsterau meddygol sy'n effeithio ar y gallu i genhedlu plentyn. Gall dewisiadau ffordd o fyw effeithio ar eich ffrwythlondeb hefyd.

Gall dewis ffordd iach o fyw eich helpu i wella eich ffrwythlondeb. Dyma rywfaint o gyngor defnyddiol ynghylch iechyd i'w ystyried 

Pwysau iach

Gall eich pwysau effeithio ar eich cyfle i ddod yn feichiog, a dyna pam mae cynnal pwysau iach yn bwysig. Gall pwyso gormod leihau cenhedlu naturiol, gall waethygu syndrom ofarïau polysystig (PCOS) a gall wneud i ansawdd y sberm waethygu. 

Gall pwyso gormod effeithio ar driniaethau ffrwythloni:

  • Bydd yn effeithio ar ganlyniad yr ofylu 
  • Ymateb gwael i feddyginiaethau ffrwythloni
  • Bydd angen dosiau uwch o hormonau i drin ffrwythlondeb
  • Bydd yn effeithio ar y gallu i ddod yn feichiog trwy ddull ffrwythloni In Vitro (IVF)
  • Cyfraddau beichiogi salach

Gall colli pwysau wella canlyniadau ffrwythloni trwy helpu i gysoni'r gylchred fislifol (y mislif) a gwella'r posibilrwydd o ofylu'n naturiol.  Argymhellir colli pwysau yn raddol yn hytrach na dietau cyflym. Rhagor o wybodaeth am fwyta'n iach a cholli pwysau. 

Rhoi'r Gorau i Ysmygu

Gall ysmygu tybaco a chymryd sylweddau adloniant leihau'r posibilrwydd o genhedlu'n naturiol a lleihau cyfraddau llwyddiant triniaethau ffrwythloni.

  • Gall ysmygu achosi anghydbwysedd o ran yr hormonau benywaidd.
  • Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ysmygu yn achosi niwed i'r tiwbiau Ffalopio
  • Gall effeithio ar ansawdd sberm
  • Ar ôl dod yn feichiog, bydd y tocsinau sy'n deillio o ysmygu yn cael eu trosglwyddo i'r embryo sy'n datblygu gan niweidio datblygiad y ffoetws.
  • Mae ysmygu yn cynyddu'r risg o golli plentyn neu fabanod marw-anedig

Mae  Helpa Fi i Stopio yn cynnig cymorth un ac un yn rhad ac am ddim gan eich cynghorydd personol ynghylch rhoi'r gorau i ysmygu. 

Ffactorau ffordd o fyw i'w hystyried wrth gynllunio beichiogrwydd er mwyn gwella ffrwythlondeb

Fel rhan o'n gwasanaethau ffrwythloni, byddwch yn cael cyngor ynghylch sicrhau bod eich iechyd cystal ag y gall fod. Trwy ddilyn y cyngor hwn ynghylch iechyd a ffordd o fyw, gallwch wella cyfraddau llwyddiant os bydd angen triniaethau ffrwythloni.

Gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau