Neidio i'r prif gynnwy

Gofal epilepsi cyn ac yn ystod beichiogrwydd

Cynllunio beichiogi

Byddwch yn cael trafodaethau gyda Niwrolegydd neu Nyrs Epilepsi yn ystod eich apwyntiadau clinig yn yr ysbyty er mwyn adolygu eich epilepsi a'ch meddyginiaeth wrth-epileptig cyn i chi feichiogi. Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn cynghori pa un a ddylech barhau i gymryd eich meddyginiaeth wrth-epileptig neu newid i ddewis amgen sydd â risg is i'ch babi cyn i chi geisio beichiogi. 

Os nad yw'ch epilepsi dan reolaeth a'ch bod yn cael trawiadau, bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn cynnig gwybodaeth a chyngor cyn i chi geisio beichiogi. 

Atal cenhedlu

Mae atal cenhedlu'n bwysig os ydych am osgoi cael beichiogrwydd anfwriadol. Gall rhai meddyginiaethau gwrth-epileptig achosi i rai mathau o atal cenhedlu fethu. Siaradwch â'ch Meddyg Teulu, Niwrolegydd neu'ch Nyrs Epilepsi i drafod pa ddull atal cenhedlu fyddai orau i chi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am atal cenhedlu ac epilepsi ar wefan Epilepsy Action.

Asid ffolig

Os ydych yn bwriadu beichiogi a bod epilepsi arnoch, rydym yn argymell y dylech gymryd 5mg o atchwanegiadau asid ffolig. Dylid ei gymryd hyd at dri mis cyn y beichiogrwydd er mwyn lleihau'r risg o gael babi gyda diffygion yn y tiwb niwral neu spina bifida.

Dylai'r rhai nad oes arnynt epilepsi neu nad ydynt yn cymryd cyffuriau gwrth-epileptig gymryd y dos arferol o 400 mcg o asid ffolig. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am atchwanegiadau ffolig.

Eich gofal yn ystod beichiogrwydd

Cysylltwch â'ch meddyg teulu cyn gynted ag y byddwch yn cael gwybod eich bod yn feichiog. Cewch eich cyfeirio at fydwraig, obstetregydd ac arbenigwr epilespi. 

Mae'r rhan fwyaf o ferched sydd ag epilepsi yn cael beichiogrwydd normal a chanlyniadau normal i'w beichiogrwydd. Fodd bynnag, bydd rhai merched yn parhau i brofi trawiadau tra byddant yn feichiog.

Mae hefyd yn bwysig iawn na fyddwch yn rhoi'r gorau i gymryd eich cyffuriau gwrth-epileptig gan y gallai hyn arwain at niwed i chi a'ch babi. 

Yn ystod eich ymweliad â'r clinig, bydd y Niwrolegydd neu'r Nyrs Epilepsi yn adolygu eich cyffuriau gwrth-epileptig, ac efallai y bydd yn argymell y dylech barhau i gymryd eich cyffuriau gwrth-epileptig presennol gan fod risg isel yn ystod beichiogrwydd ynghlwm wrth y cyffur yr ydych yn ei gymryd.

Os gwelwch eich bod yn feichiog heb dderbyn cwnsela atal cenhedlu gyda'ch Niwrolegydd neu'ch Nyrs Epilepsi, argymhellir eich bod yn gwneud y canlynol:

  • Parhau i gymryd eich meddyginiaeth atal trawiadau
  • Gofyn i'ch meddyg teulu ragnodi 5mg o atchwanegiadau ffolig bob dydd. 

Gall y risgiau sy'n gysylltiedig â thrawiadau sy'n gwaethygu amrywio gan ddibynnu ar y math o epilepsi sydd arnoch, i ba raddau y cafodd eich trawiadau eu rheoli cyn beichiogrwydd, a pha gyffuriau gwrth-epileptig yr ydych yn eu cymryd.

Cyngor defnyddiol i helpu i leihau sbardunau epilepsi cyffredin

Mae rhai o sbardunau cyffredin trawiadau epilepsi yn cynnwys anghofio cymryd eich cyffuriau gwrth-epileptig a diffyg cwsg felly: 

  • Defnyddiwch larwm neu focs tabledi i'ch helpu i gofio am gymryd eich cyffuriau gwrth-epileptig 
  • Os yw'ch beichiogrwydd yn achosi i chi chwydu ac nad ydych yn gallu cymryd eich cyffuriau gwrth-epileptig, mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch meddyg teulu neu'ch bydwraig cyn gynted â phosibl. 
  • Os ydych yn profi trawiadau, siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch Nyrs Epilepsi gan y gallant addasu eich cyffuriau gwrth-epileptig i leihau eich trawiadau 
  • Sicrhewch eich bod yn gorffwys ac yn cael digonedd o gwsg.
  • Efallai y bydd rhai merched yn cael trawiadau gan fod lefel y cyffuriau gwrth-epileptig sydd yn eu gwaed yn newid yn ystod beichiogrwydd. Efallai y bydd eich Niwrolegydd neu'ch Nyrs Epilepsi yn argymell eich bod yn cael profion gwaed rheolaidd trwy gydol beichiogrwydd ac os bydd lefel y cyffur gwrth-epileptig yn eich gwaed yn newid, efallai y bydd eich Arbenigwr Epilepsi yn addasu'r dos.  

Gall trawiadau heb eu rheoli gynyddu'r risg o ddamweiniau hefyd. Mae rhagor o wybodaeth am gadw'n ddiogel ac awgrymiadau er mwyn helpu i leihau risgiau ar gael ar wefan y Gymdeithas Epilepsi. 

Esgor, geni a thu hwnt

Bydd y rhan fwyaf o ferched sydd ag epilepsi yn esgor trwy'r wain yn y modd arferol, heb gymhlethdodau. Bydd eich obstetregydd a'ch bydwraig yn siarad â chi am eich cynllun geni a beth fydd y ffordd fwyaf diogel i chi roi genedigaeth i'ch babi. 

Dolenni ac adnoddau defnyddiol