Neidio i'r prif gynnwy

Diabetes cyn ac yn ystod beichiogrwydd

Cynllunio ar gyfer beichiogi

Mae’n bwysig trafod gyda’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol os oes gennych ddiabetes a’ch bod yn bwriadu beichiogi:

  • Siaradwch â'ch Nyrs Diabetes Arbenigol neu Ymgynghorydd Diabetes os ydych yn derbyn gofal diabetes yn yr ysbyty.
  • Siaradwch â'ch Meddyg Teulu neu Nyrs y Practis os ydych yn derbyn gofal diabetes yn y feddygfa teulu.

Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn adolygu eich meddyginiaeth diabetes ac yn eich helpu i wella eich rheolaeth o ddiabetes. Mae'n bwysig nad ydych yn rhoi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth diabetes heb siarad â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i dderbyn cyngor.

Argymhellir eich bod yn monitro lefelau glwcos yn eich gwaed 4 gwaith y dydd (os nad ydych yn gwneud hynny eisoes), gan anelu at gadw lefelau glwcos eich gwaed rhwng 4-7mmols.

Asid ffolig

Os ydych yn bwriadu beichiogi a bod gennych ddiabetes, rydym yn argymell eich bod yn cymryd 5mg o atchwanegiad asid ffolig. Dylid cymryd hwn hyd at dri mis cyn beichiogrwydd i leihau'r risg o gael babi â diffygion ar y tiwb niwral neu spina biffida. Ceir rhagor o wybodaeth am atchwanegiadau ffolig yma.  

Eich gofal yn ystod beichiogrwydd

Cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn feichiog, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch bydwraig gymunedol am atgyfeiriad i'r Clinig Diabetes Cyn Geni.

Byddwch yn gweld yr obstetrydd ymgynghorol a'r diabetolegydd a'r nyrs diabetes arbenigol yn y Clinig Diabetes Cyn Geni. Bydd eich meddyginiaeth diabetes yn cael ei hadolygu a bydd sgan beichiogrwydd cynnar yn cael ei drefnu ar eich cyfer.

Bydd angen i chi fonitro lefelau glwcos eich gwaed hyd at saith gwaith y dydd. Mae targedau glwcos yn y gwaed yn ystod beichiogrwydd yn is na phan nad ydych yn feichiog. Bydd y targedau hyn yn cael eu hesbonio'n fanylach yn y Clinig Diabetes Cyn Geni.

Bydd gofyn i chi fynychu'r Clinig Diabetes Cyn Geni yn fisol a threfnir clinigau ffôn rheolaidd gyda'r nyrs diabetes arbenigol hefyd.

Byddwch hefyd yn cael eich cyfeirio ac yn cael eich gweld gan y dietegydd.

Esgor, geni a thu hwnt

Bydd y rhan fwyaf o fenywod â diabetes yn cael eu babi cyn eu dyddiad geni. Bydd eich cynllun geni a'r ffordd fwyaf diogel i chi eni'ch babi yn cael eu trafod yn y clinig gyda'ch obstetrydd ymgynghorol. Mae hyn yn dibynnu ar ba mor dda y rheolwyd eich diabetes a thwf eich babi.

Bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am o leiaf 24 awr ar ôl geni eich babi.

Bydd eich meddyginiaeth diabetes yn cael ei hadolygu cyn i chi gael eich babi fel eich bod yn gwybod pa feddyginiaeth a pa ddosau y byddwch yn eu cymryd ar ôl i chi gael eich babi.

Adnoddau a thudalennau defnyddiol