Neidio i'r prif gynnwy

Rhwygiadau Perinëwm

Y perinëwm yw'r darn croen rhwng y wain a'r anws (pen ôl). Mae wedi'i wneud o feinwe a chroen cryf sy’n ymestyn i ganiatáu genedigaeth drwy'r wain.

Mae'n bosibl i berinëwm menyw rwygo yn ystod genedigaeth. Gall y rhwygiadau hyn fod yn unrhyw beth o grafiad bach i rwyg dwfn y gallai fod angen pwythau arno er mwyn ei gyweirio. Mae rhwygiadau yn digwydd yn aml yn ystod genedigaethau cyntaf drwy'r wain.

Episiotomi

Toriad i'r perinëwm a wneir gan feddyg neu fydwraig yw episiotomi. Gwneir hyn i wneud agoriad y wain yn ehangach fel y gall eich babi ddod allan yn haws. Mae nifer o wahanol resymau pam y gallai fod angen gwneud hyn, bydd eich bydwraig neu feddyg yn esbonio hyn ymhellach.

Tylino Perineol

Mae ymchwil yn dangos y gallai tylino perineol ar ôl 34 wythnos o feichiogrwydd helpu i leihau eich siawns o gael rhwyg perineol neu o fod angen episiotomi (toriad). Siaradwch â'ch bydwraig am ragor o wybodaeth am dylino perineol.

Mae rhagor o wybodaeth am rwygiadau perineaidd ac episiotomïau ar gael ar wefan GIG 111 Cymru.

Adfer cryfder llawr y pelfis ar ôl rhwyg perineaidd neu episiotomi

Mae cryfhau cyhyrau llawr y pelfis yn bwysig iawn ar ôl rhoi genedigaeth. Gallwch ddechrau gwneud rhai ymarferion llawr y pelfis ysgafn cyn gynted ag y bydd hi’n gyfforddus i wneud hynny,.

Ar y cychwyn, efallai y byddwch yn ei chael hi'n fwy cyfforddus i wneud eich ymarferion tra’n gorwedd. Ceisiwch wneud cymaint ag sy'n gyfforddus i'w gwneud, ni ddylai'r ymarferion hyn fod yn boenus.

Wrth i'ch ymarferion llawr y pelfis ddod yn haws i'w gwneud, gallwch gynyddu i hyd at 10 neu fwy o wasgiadau llawr y pelfis mewn un sesiwn. Anelwch at wneud 3 i 4 sesiwn bob dydd.

Pan fyddwch chi'n gyfforddus yn gwneud 10 neu fwy o wasgiadau llawr y pelfis wrth orwedd, gallwch symud i'w gwneud tra’n eistedd neu'n sefyll.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi wneud eich ymarferion llawr y pelfis tra'n gwneud gweithgareddau eraill fel bwydo'ch babi. Gall hyn fod yn ffordd ddefnyddiol i'ch atgoffa i wneud eich ymarferion llawr y pelfis sawl gwaith y dydd.

Gyda phwy y dylwn i siarad os bydd angen help arnaf?

Ar ôl genedigaeth, efallai y byddwch chi'n profi'r canlynol:

  • Gall cyhyrau llawr eich pelfis wanhau.
  • Efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd dal eich wrin, carthion a gwynt i fewn.
  • Efallai y byddwch hefyd yn teimlo ychydig yn drwm neu'n ddolurus o gwmpas y wain a'r perinewm, yn enwedig os ydych wedi cael toriad neu rwyg. Mae'n debygol y bydd hyn yn gwella o fewn ychydig wythnosau. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud eich ymarferion llawr y pelfis i helpu'r gwellhad.

Siaradwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg teulu os ydych chi'n cael anawsterau gyda rheoli'ch pledren/coluddyn (cadw'r wrin a'r carthion i mewn). Dylech siarad â'ch bydwraig os bydd yr anawsterau hyn yn digwydd unrhyw bryd ar ôl genedigaeth, bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn cynnig cyngor a chymorth pellach i chi.

Ffisiotherapi ar ôl genedigaeth

Wedi’r enedigaeth, efallai y bydd eich bydwraig neu feddyg yn eich cynghori i ymweld â ffisiotherapydd iechyd pelfig arbenigol.

Gall ffisiotherapi fod yn help ar gyfer llawer o anawsterau fel:

  • Rheoli'r bledren a'r coluddyn
  • Teimlad o drymder yn y perinëwm
  • Poen wrth gael rhyw
  • Gwahaniad cyhyrau’r bol
  • Dychwelyd i'r gwaith, chwaraeon a gweithgareddau ar ôl cael babi
  • Prolaps y wain
  • Poen gwregys pelfig/poen cefn ar ôl rhoi genedigaeth

Os oes gennych broblemau gyda llawr eich pelfis yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl genedigaeth, siaradwch â'ch bydwraig, meddyg neu ymwelydd iechyd. Gall fod yn anodd siarad am y pethau hyn ond cofiwch ein bod yn siarad â llawer o bobl sydd â'r un problemau bob dydd ac mae'n bwysig eich bod yn cael y cymorth a'r gofal sydd angen arnoch.

Mae gwybodaeth am yr hyn i'w ddisgwyl os argymhellir ffisiotherapi iechyd y pelfis i chi, ar wefan Ffisiotherapi Pelfig, Obstetrig a Gynaecolegol.