Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch Teganau ar gyfer Babanod

Dylai label fod ar bob tegan i ddweud ar gyfer pa oedran y’i cynlluniwyd. Er hynny, ni ddylech gymryd yn ganiataol bod hyn yn warant ei fod yn ddiogel i'ch babi. Mae yna ffyrdd y gallwch chi amddiffyn eich babi rhag rhai damweiniau cyffredin. 

Lleihau'r risg o dagu

Gall babanod a phlant bach roi gwrthrychau bach yn eu cegau, a dyna pam y dylech fod yn ymwybodol o'r peryglon hyn, a lleihau'r risg o dagu. Dyma rai pethau defnyddiol i’w hystyried:

  • Cadwch wrthrychau bach, fel botymau, darnau arian a darnau bach o deganau, allan o gyrraedd eich babi.
  • Mae llawer o deganau wedi'u marcio â chyfyngiadau oedran i leihau'r risg y bydd babanod yn tagu ar rannau bach neu wallt rhydd. Cadwch deganau a gynlluniwyd ar gyfer plant hŷn oddi wrth fabanod a phlant bach. 
  • Cadwch fatris botymau arian bach ymhell oddi wrth eich babi. Mae perygl o dagu ar y rhain a gallant hefyd achosi llosgiadau mewnol difrifol os cânt eu llyncu. Darganfyddwch fwy o wybodaeth am gadw eich babi yn ddiogel rhag llosgiadau.

Sut i gadw teganau'n ddiogel i fabanod

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i'w hystyried i gadw teganau'n ddiogel i'ch babi:

  • Cadwch bopeth yn dwt ac yn daclus. Gall rhoi teganau i'w cadw mewn bocs neu le diogel leihau’r risg y bydd eich plentyn ifanc yn cwympo ac yn anafu ei hun.
  • Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n rhoi balŵns i’ch babi gan fod perygl y gallai’r babi dagu ar falŵn sydd wedi byrstio.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar unrhyw deganau sydd wedi torri neu sydd wedi eu difrodi. Gall tegan sydd wedi torri achosi damweiniau os yw wedi dod yn beryglus. Gallwch leihau’r risg hon trwy gael gwared ar unrhyw deganau sydd wedi torri. 
  • Cymerwch ofal gyda theganau sy'n cael eu pweru gan fatri. Er y bydd y teganau hyn fel arfer wedi pasio profion diogelwch, byddem yn awgrymu eich bod yn osgoi cymysgu hen fatris â rhai newydd. Gall hen fatris orboethi yn y tegan. 

Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelwch teganau i fabanod a phlant ifanc ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau Ymhlith Plant.  

Gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau