Mae cysylltu â'ch babi yn dda ar gyfer datblygiad ei ymennydd. Mae adeiladu perthynas gariadus gyda'ch babi heb ei eni yn hwyl, efallai y bydd hefyd yn eich helpu i addasu yn y dyddiau cynnar ar ôl yr enedigaeth.
Syniadau Da ar gyfer dod i adnabod eich babi cyn yr enedigaeth
- O tua 20 wythnos ymlaen mae babanod yn ymateb i synau - chwaraewch eich hoff gerddoriaeth neu canwch i weld a yw eich babi yn fwy egnïol neu a yw'n ymddangos fel pe bai'n mynd i gysgu
- Ceisiwch chwarae cerddoriaeth ysgafn neu ganu hwiangerdd pan fyddwch chi'n mynd i gysgu. Bydd eich babi yn cofio hyn a gallai helpu'r babi i gysgu ar ôl yr enedigaeth
- Pan fyddwch chi'n teimlo eich babi'n cicio, rhowch eich llaw ar eich bol, rhwbiwch yn ysgafn a dywedwch "mae'n iawn babi dw i yma!"
- Siaradwch â'ch babi fel petai ef neu hi yno o'ch blaen, dywedwch wrthynt beth rydych yn ei wneud. Mae'r babi heb ei eni yn adnabod lleisiau ei rieni
- Meddyliwch am sut y bydd eich babi newydd yn edrych pan fyddwch yn cwrdd ar ôl yr enedigaeth
Cyswllt croen wrth groen
Dylai cwtsh arbennig cyntaf y babi ar ôl yr enedigaeth bara o leiaf awr.
Mae cyswllt croen wrth groen yn bwysig i:
- helpu'r babi i sefydlogi anadlu a churiad y galon
- cadw'r babi'n gynnes
- tawelu meddwl y fam a'r babi ar ôl yr enedigaeth
- helpu i roi cychwyn gwych i fwydo ar y fron
Gall digwyddiadau esgor a genedigaeth wneud dysgu bwydo ychydig yn anodd i rai babanod yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf - bydd yn help mawr i gael cymaint o gyswllt croen wrth groen â'r babi â phosibl.
Deall ymddygiad eich babi newydd-anedig
Darganfod mwy o wybodaeth am ddeall ymddygiad eich babi a sut beth yw bwydo ar y fron.
Dod i adnabod eich gilydd
Yn y dyddiau a’r wythnosau cynnar mae’n bwysig bod mamau a babanod yn aros yn agos at ei gilydd:
- Mam yn dysgu ymddygiad a "chiwiau" bwydo ei babi
- Mae mam yn magu hyder wrth drin a gofalu am ei babi
- Mae'r babi yn dysgu adnabod mam ac yn teimlo'n ddiogel
Mae tadau/partneriaid yn wych am gamu i'r adwy pan fydd angen seibiant ar mam a helpu i setlo'r babi. Mae’n syniad da i’ch partner gael o leiaf awr o gyswllt croen wrth groen bob dydd i ddatblygu perthynas gyda’r babi. Mae “cot cyd-gysgu” yn syniad gwych ar gyfer helpu gyda rhiantu yn ystod y nos. Dysgwch ragor am sut y gall cael cymorth gan eich teulu helpu gyda bwydo ar y fron.
Bwydo ar y Fron mewn modd Ymatebol
Mae bwydo ar y fron mewn modd ymatebol yn dda ar gyfer datblygiad ymennydd y babi ac ar gyfer hyder y fam.
Mae bwydo er cysur yr un mor bwysig â bwydo am fwyd:
- Cysur i'r babi – efallai'n teimlo'n ofidus neu'n unig
- Cysur i fam – gall y bronnau fod yn llawn neu efallai y bydd angen eistedd a chael cwtsh gyda’i phlentyn bach
- Ni fydd bod yn ymatebol a sensitif yn “difetha” eich babi
- Ni all babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron gael eu gorfwydo na'u “difetha” trwy fwydo'n aml!
- Ni fyddwch yn “gofyn am drwbwl” trwy ymateb i ymddygiad eich babi