Neidio i'r prif gynnwy

Babi ffolennol ar ddiwedd beichiogrwydd

Mae babanod yn troi a throsi yn aml yn ystod beichiogrwydd. Bydd y rhan fwyaf o fabanod wedi symud i'r safle lle mae’r pen i lawr (a elwir hefyd yn safle pen yn gyntaf) erbyn i'r cyfnod esgor ddechrau. Ni fydd hyn yn digwydd bob amser ac efallai y gallai eich babi fod:

  • Wysg ei ben-ôl neu ei draed (safle ffolennol)
  • Yn gorwedd ar draws (safle trawsliniol)

Mae safle ffolennol yn beth cyffredin iawn yn ystod beichiogrwydd cynnar. Erbyn tua wythnos 36 i 37 bydd y rhan fwyaf o fabanod yn troi i fod a’u pennau i lawr.

Y rhesymau pam mae babi yn y safle ffolennol

Gall y ffactorau canlynol fod yn gysylltiedig â safle ffolennol eich babi:

  • Dyma'ch beichiogrwydd cyntaf
  • Mae eich brych yn gorwedd yn isel
  • Mae gennych ormod neu rhy ychydig o hylif (hylif amniotig) o amgylch eich babi
  • Rydych chi'n cael mwy nag un babi

Beth sy'n digwydd os bydd eich babi yn y safle ffolennol tua diwedd y beichiogrwydd

Os bydd eich babi yn y safle ffolennol erbyn wythnos 36 o feichiogrwydd, bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn trafod eich opsiynau gyda chi. Gall hyn gynnwys:

  • Ceisio troi eich babi yn y groth i fod yn eu safle pen yn gyntaf drwy droad ceffalig allanol (ECV)
  • Triniaeth Cesaraidd wedi'i chynllunio
  • Genedigaeth ffolennol y wain wedi'i chynllunio

Troi babi drwy droad ceffalig allanol (ECV)

Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn esbonio, yn trafod ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am yr ECV. Dyma beth i'w ddisgwyl os bydd y driniaeth hon yn cael ei hargymell i chi:

  • Os oes angen ECV arnoch, byddwch yn cael uwchsain i gadarnhau bod eich babi'n dal i fod yn y safle ffolennol.
  • Byddwch yn cael meddyginiaeth i ymlacio’r groth. Rhoddir y feddyginiaeth trwy chwistrelliad cyn yr ECV ac mae'n ddiogel i chi a'ch babi.
  • Gall yr ECV fod yn anghyfforddus ac weithiau'n boenus. Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn dod â’r driniaeth i ben os byddwch yn profi poen. Ychydig funudau mae’r driniaeth yn para fel arfer.
  • Rydych chi'n fwy tebygol o gael genedigaeth drwy'r wain os bydd eich ECV yn llwyddiannus a bod eich babi yn cael ei droi i’r safle pen yn gyntaf.
  • Nid oes risg uwch i'ch babi, mae’n debyg, o gael ECV. Ar ôl y driniaeth, byddwch fel arfer yn gallu mynd adref ar yr un diwrnod.

Mae’r tebygrwydd y byddwch angen geni drwy lawdriniaeth Caesaraidd brys, gefel eni neu gwpan sugno Ventouse ychydig yn uwch na phe bai eich babi wedi bod yn gorwedd a’i ben i lawr drwy’r adeg.