17.02.2025
Mae Semaglutide (Wegovy) a Tirzepatide (Mounjaro) wedi cael eu cymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) i reoli gordewdra. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan yn amlinellu y caiff meddyginiaeth rheoli pwysau ei rhagnodi fel rhan o wasanaeth arbenigol yn unig, lle bo angen clinigol am hynny, a hynny dim ond ar y cyd ag ymyrraeth ymddygiadol (ffordd o fyw) sy'n cynnwys deiet sy'n is mewn calorïau a gweithgarwch corfforol cynyddol.
O ganlyniad, ni chaiff practisau meddygon teulu yng Nghymru roi'r meddyginiaethau hyn ar bresgripsiwn i reoli gordewdra ac nid ydynt ar gael trwy wasanaeth cyffredinol 'Cymorth gyda'm Pwysau' (Lefel 2) yn y bwrdd iechyd.
Oherwydd capasiti cyfyngedig y gwasanaeth rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol (lefel 3) yn y bwrdd iechyd, dim ond cleifion sydd â Mynegai Màs y Corff* (BMI) o dros 45kg/m2 y gellir eu hystyried i'w cyfeirio ar ôl cwblhau rhaglen KindEating. Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn ar gyfer y rhai sydd â'r anghenion clinigol mwyaf difrifol y gellir rhoi meddyginiaethau ar bresgripsiwn o dan y gwasanaeth arbenigol. Efallai y bydd hyn yn wahanol i'r hyn yr ydych wedi'i ddarllen neu ei weld yn rhywle arall. Nid yw Tirzepatide (Mounjaro) ar gael ar hyn o bryd i drin gordewdra yn y bwrdd iechyd.
Gwyddom fod llawer o bobl yn teimlo'n siomedig nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu manteisio ar y meddyginiaethau hyn trwy bresgripsiwn y GIG. Mae'r Hwb Iechyd Meddwl yn darparu gwybodaeth am ffynonellau cymorth ar gyfer llesiant meddyliol os bydd angen.
Gall gwasanaeth 'Cymorth gyda'm Pwysau' gynnig cefnogaeth arall i bobl yng Ngogledd Cymru sy'n chwilio am gymorth i reoli eu pwysau gan gynnwys mynediad i gymorth digidol trwy ap Second Nature neu gymorth trwy raglen KindEating sy'n cael ei hwyluso gan Ddeietegwyr Cofrestredig. Gweler gwybodaeth am gymhwyster i fanteisio ar y cymorth hwn trwy ddilyn y dolenni. Gall llawer o bobl hunangyfeirio at wasanaeth 'Cymorth gyda'm Pwysau' pan fyddant yn barod i wneud hynny. Dylai'r rhai sydd â BMI dros 45kg/m2 drafod cyfeirio gyda'u meddyg teulu.
Mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu adolygu gwasanaethau rheoli pwysau.
Rhybudd: Mae Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi rhybuddio'r cyhoedd i beidio prynu meddyginiaethau colli pwysau o salonau harddwch neu dros y cyfryngau cymdeithasol heb gael presgripsiwn gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig. Dylai'r cyhoedd hefyd fod yn wyliadwrus rhag pinnau colli pwysau ffug anniogel sydd ar werth trwy ffynonellau anghofrestredig ar-lein. Mae cynnig meddyginiaethau colli pwysau heb bresgripsiwn gofal iechyd yn anghyfreithlon ac yn risg ddifrifol i iechyd.