Bydd merched beichiog yn cael cynnig brechlyn rhag y ffliw yn eu meddygfa fel rhan o'u gwiriadau iechyd beichiogrwydd arferol
Bydd y brechlyn hwn yn helpu i amddiffyn merched beichiog rhag y ffliw ar adeg pan fo eu system imiwnedd yn wannach yn naturiol.
Gall merched beichiog gael brechlyn rhag y ffliw unrhyw bryd yn ystod eu beichiogrwydd. Er mwyn sicrhau'r amddiffyniad gorau posibl i'ch babi a chi, trefnwch apwyntiad i gael eich brechu cyn gynted â phosibl yr hydref hwn.
Bydd eich meddygfa neu eich bydwraig gymunedol yn cysylltu â chi i gynnig apwyntiad, neu cadwch lygad am glinigau sy’n cael eu hysbysebu gan eich meddygfa, lle gellir archebu apwyntiad.
Nid yw’n rhy hwyr. Os ydych yn meddwl eich bod wedi methu eich apwyntiad i gael brechlyn ffliw’r GIG, cysylltwch â’ch meddygfa neu eich bydwraig gymunedol i drefnu eich apwyntiad.
Bydd merched hefyd yn cael cynnig brechlynnau rhag pertwsis (y pâs), COVID-19 ac RSV yn ystod eu beichiogrwydd. Bydd y rhain yn helpu i amddiffyn eu babanod rhag cymhlethdodau a salwch difrifol.
Manteisiwch ar y cynnig i amddiffyn eich hun a'ch babi rhag risg o salwch difrifol.