Neidio i'r prif gynnwy

Gweithwyr y GIG, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

Er mwyn amddiffyn ein staff a’n cleifion, bydd holl staff Betsi Cadwaladr a staff eraill y GIG yn cael cynnig brechlyn rhag y ffliw 

Bydd staff Betsi Cadwaladr a staff eraill y GIG yn cael cynnig brechlyn rhag y ffliw yn y gwaith gan gymheiriaid neu mewn clinig brechu staff. Nid yw’n rhy hwyr – mae clinigau galw heibio ar gyfer staff yn dal i gael eu cynnal yn ein canolfannau brechu. 

 

Cadwch lygad am fwy o wybodaeth am sut i gael brechlyn rhag y ffliw yn eich gweithle, holwch eich rheolwr llinell am drefniadau ar gyfer brechu staff yn eich adran, neu chwiliwch am Flu ar system fewnrwyd BetsiNet y bwrdd iechyd.

Bydd pob aelod o staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, pob gweithiwr gofal cymdeithasol arall a gweithwyr gofal cartref hefyd yn cael cynnig brechlyn rhag y ffliw 

Os ydych yn meddwl eich bod wedi methu eich apwyntiad i gael brechlyn ffliw’r GIG, cysylltwch â’ch fferyllfa gymunedol leol i drefnu eich apwyntiad. neu gallwch alw heibio yn un o'r canolfannau brechu.

Cysylltwch â'ch fferyllfa leol ymlaen llaw achos efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad. Cofiwch ddod â'ch bathodyn adnabod neu llythyr gan eich cyflogwr.

Mae hefyd yn bosibl y bydd aelodau o staff y GIG a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill yn cael cynnig brechlyn rhag y ffliw yn eu meddygfa, neu gallant fynychu clinigau sy’n cael eu hysbysebu gan eu canolfannau iechyd lleol, lle gellir archebu apwyntiad.

Manteisiwch ar y cynnig hwn i helpu i leihau'r risg o salwch difrifol a achosir gan y ffliw y gaeaf hwn.