Neidio i'r prif gynnwy

Ynys Môn

Gall oedolion sy'n gymwys i gael brechlyn blynyddol y GIG rhag y ffliw gerdded i mewn i un o'n clinigau brechu cymunedol ar Ynys Môn heb apwyntiad

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am leoliadau ein clinigau a dyddiadau ac amseroedd y sesiynau brechu galw heibio isod. Mae manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer y brechlyn ffliw y GIG ar gael yma.

Daeth y rhaglen brechu rhag y COVID-19 y Hydref i ben ar 31 Ionawr 2025. Mae brechlynnau rhag y ffliw ar gael i 31 Mawrth 2026.

Ar gyfer ymholiadau, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk. Mae'r ganolfan gyswllt ar agor rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

 

Canolfan Cymunedol Kingsland, Caergybi

Ffordd Cyttir, Caergybi  LL65 2WF

Cynhelir clinigau galw heibio brechu ar gyfer oedolion yng Nghanolfan Cymunedol Kingsland yng Nghaergybi ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mawrth Mawrth 17, rhwng 11am a 3.30pm

Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.

I drefnu apwyntiad i blant oedran ysgol gael eu brechiad rhag y ffliw yn un o'r clinigau hyn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt Brechu ymlaen llaw drwy ffonio 03000 840004 neu drwy e-bostio BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk. Mae brechlynnau ffliw chwistrell trwyn di-boen ar gyfer plant 2 a 3 oed (oedran ar Awst 31 2025) yn dal i fod ar gael o feddygfeydd teulu.​

 

 

Ysgol Corn Hir, Llangefni

Ffordd Cildwrn, Llangefni  LL77 7YW

Cynhelir clinigau galw heibio brechu ar gyfer oedolion yn Ysgol Corn Hir yn Llangefni ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mawrth Mawrth 16, rhwng 11am a 4pm

Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.

I drefnu apwyntiad i blant oedran ysgol gael eu brechiad rhag y ffliw yn un o'r clinigau hyn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt Brechu ymlaen llaw drwy ffonio 03000 840004 neu drwy e-bostio BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk. Mae brechlynnau ffliw chwistrell trwyn di-boen ar gyfer plant 2 a 3 oed (oedran ar Awst 31 2025) yn dal i fod ar gael o feddygfeydd teulu.​

 

 

Canolfan Beaumaris

Rating Row, Beaumaris  LL58 8AL

Nid oes clinigau ar gael yng Nghanolfan Beaumaris ar hyn o bryd.