Gall pobl ifanc sy'n gymwys ar gyfer brechlyn meningitis B alw heibio un o'n clinigau brechu yn y gymuned ar Ynys Môn ar gyfer eu dos cyntaf heb drefnu apwyntiad
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am leoliadau ein clinigau a dyddiadau ac amseroedd y sesiynau brechu galw heibio isod.
Mae'r brechlyn ar gael ar gyfer:
Mae angen dau ddos o'r brechlyn i'ch amddiffyn eich hun yn llawn. Byddwch yn cael apwyntiad ar gyfer ail ddos ar ôl derbyn eich un cyntaf, fel arfer, rhyw bedair wythnos yn ddiweddarach.
Os cawsoch eich geni ar 31 Awst 2007 neu cyn hynny, dewch â thystiolaeth bod disgwyl i chi ddechrau ar flwyddyn gyntaf cwrs preswyl mewn prifysgol neu goleg yr hydref hwn (e.e. copi o'ch cynnig neu lythyr cynnig dros dro). Bydd pobl ifanc sydd wedi colli brechiadau eraill a argymhellir hefyd yn cael cynnig y cyfle i ddal i fyny yn y clinigau hyn.
Er mwyn trefnu apwyntiad brechu, aildrefnu apwyntiad neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk. Mae'r ganolfan gyswllt ar agor rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
Ffordd Cyttir, Caergybi LL65 2TF
Cynhelir clinigau galw heibio brechu ar gyfer pobl ifanc yn Ysgol Corn Hir yn Llangefni ar y dyddiadau canlynol.
Bydd clinigau'n cau am ginio rhwng 1pm a 1.30pm.
Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.