Neidio i'r prif gynnwy

Wrecsam

Gall oedolion sy'n gymwys i gael brechlyn blynyddol y GIG rhag y ffliw gerdded i mewn i un o'n clinigau brechu cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam heb apwyntiad

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am leoliadau ein clinigau a dyddiadau ac amseroedd y sesiynau brechu galw heibio isod. Mae manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer y brechlyn ffliw y GIG ar gael yma.

Daeth y rhaglen brechu rhag y COVID-19 y Hydref i ben ar 31 Ionawr 2025. Mae brechlynnau rhag y ffliw ar gael i 31 Mawrth 2026.

Ar gyfer ymholiadau, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004 neu e-bostiwch BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk. Mae'r ganolfan gyswllt ar agor rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

 

Y Ganolfan Frechu Plas Gororau

Ffordd Ellice, Parc Technoleg Wrecsam  LL13 7YY

Cynhelir clinigau galw heibio brechu ar gyfer oedolion yn Y Ganolfan Frechu Plas Gororau yn Wrecsam ar y dyddiadau canlynol.
Bydd clinigau'n cau am ginio rhwng 12.50pm a 1.40pm.

  • Dydd Gwener Mawrth 6, rhwng 9.45am a 5.15pm
  • Dydd Gwener Mawrth 13, rhwng 9.45am a 5.15pm
  • Dydd Gwener Mawrth 20, rhwng 9.45am a 5.15pm
  • Dydd Mercher Mawrth 25, rhwng 9.45am a 5.15pm
  • Dydd Gwener Mawrth 27, rhwng 9.45am a 5.15pm

Yn ystod amseroedd prysurach, efallai y bydd gofyn i bobl sy’n galw heibio heb apwyntiad aros cyfnod byr tan y bydd slot ar gael.

I drefnu apwyntiad i blant oedran ysgol gael eu brechiad rhag y ffliw yn un o'r clinigau hyn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt Brechu ymlaen llaw drwy ffonio 03000 840004 neu drwy e-bostio BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk. Mae brechlynnau ffliw chwistrell trwyn di-boen ar gyfer plant 2 a 3 oed (oedran ar Awst 31 2025) yn dal i fod ar gael o feddygfeydd teulu.​

 

 

Y Delph, Acrefair

Ffordd Bethania  LL14 3TR

Nid oes clinigau ar gael yn Y Delph ar hyn o bryd.

 

 

Neuadd y Plwyf Y Waun

Ffordd Caergybi, Y Waun  LL14 5NA

Nid oes clinigau ar gael yn Neuadd y Plwyf Y Waun ar hyn o bryd.